Cymdeithas yn ddig gyda chau ysgolion

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad sydyn Cyngor Sir Gaerfyrddin i ddechrau'r broses ymgynghori yn syth ynglyn a dyfodol ysgolion Mynyddcerrig a New Inn. Nid yw ysgol New Inn hyd yn oed ar restr y Cyngor o 40 ysgol dan fygythiad, a doedd dim bwriad i gychwyn y broses ym Mynyddcerrig am flwyddyn arall.

Dywedodd Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed o Gymdeithas yr Iaith :"Mae'r Cyngor yn amlwg yn ceisio cau fesul un ac un yr ysgolion maen nhw'n ystyried y rhai gwannaf mewn modd cwbwl sinigaidd. Dy'n nhw'n gwneud dim wrth weld ysgolion pentrefol yn profi problemau dybryd. Pan fydd ysgol fach yn wynebu baich ariannol ychwanegol oherwydd salwch neu absenoldeb athro, dy'n nhw'n gwneud dim i helpu. Maen nhw'n gadael i'r ysgolion bach wynebu popeth ar eu pennau eu hunain."Dylid llongyfarch ysgol Mynyddcerrig am wella'r addysg gymaint nes eu galluogi i ddod allan o'r Mesurau Arbennig a roddwyd arnynt, ond eu gwobr gan y Cyngor sinigaidd i'w wynebu cau."Gan fod Cyngor Sir Gaerfyrddin, yn wahanol i Gaerdydd, yn gwrthod gadael i'r bobl drafod y strategaeth gyfan o gau ysgolion ar raddfa enfawr, rydym yn galw ar bawb nawr i roi cefnogaeth i bob ysgol unigol sy'n cael ei bygwth yn groes i ewyllys y rhieni a'r llywodraethwyr."Mae ysgolion fel Mynyddcerrig yn awr yn y reng flaen ac mae'n gobaith dros ddwsinau o'n cymunedau Cymraeg yn gorwedd gyda nhw. Maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth."