Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog trigolion lleol i ymweld ag uned Cyngor Sir Môn yn Sioe Môn (Dydd Mawrth, 15 Awst a Dydd Mercher, 16 Awst) i'w holi a ydy'r Cyngor unwaith eto am geisio cau ysgolion gwledig yr ynys. Mae dogfen fewnol gan y Cyngor Sir wedi dod i feddiant y Gymdeithas sydd, fe ymddengys, yn argymell cau 14 o ysgolion cynradd cyn diwedd y ddegawd, a chreu tair ysgol newydd i ganoli addysg.
Esboniodd Robat Idris, Cadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas:
"Mae'n anodd gennym gredu bod y ddogfen sydd wedi ein cyrraedd trwy ffynhonnell anhysbys yn un ddilys gan ei bod yn argymell tanseilio cymunedau gwledig Cymraeg y sir mewn modd sy'n gwbl groes i bolisi llywodraeth ganolog. Yn ôl y ddogfen, y bwriad unwaith eto yw cau dros ddwsin o ysgolion gwledig Cymraeg y Sir erbyn 2030. Mae'n anodd credu bod sylwedd i’r ddogfen gan bod mwyafrif helaeth yr ysgolion ar restr swyddogol y Llywodraeth o ysgolion gwledig i’w hamddiffyn, a mae Cod Trefniadaeth Ysgolion y Llywodraeth yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor. Byddai eu cau yn golygu mai dim ond llond llaw o ysgolion gwledig fyddai ar ôl o'u rhestr ym Môn, fyddai yn anochel yn arwain at ganoli darpariaeth addysg. Go brin y byddai'r Llywodraeth yn caniatáu y fath ddirmyg tuag at ei pholisi.”
Ychwanegodd Robat Idris:
"Yr hyn sy'n ein poeni ni'n fwy na hynny fyddai'r dirmyg fyddai hyn yn ei ddangos tuag at gymunedau gwledig Cymraeg y Sir, yr un cymunedau sydd yn sail i ddigwyddiad mor llwyddiannus â Sioe Môn. Byddai gweithredu polisi o'r fath yn golygu bod teuluoedd ifanc yn peidio ag ymgartrefu yn ein cymunedau gwledig, a byddai'r Gymraeg yn dod yn fwyfwy cyfyngedig i’r dosbarth ysgol. Yn ymarferol byddai'r Cyngor yn gosod esiampl o gefnu ar gymunedau gwledig. Mawr obeithiwn mai rhyw bapur safbwynt di-nod yw'r ddogfen a ddanfonwyd atom, ond galwn ar y cyhoedd i holi’r Cyngor a oes sail iddi."