Cymraeg yn hanfodol? Ddim mor hanfodol â'r Saesneg

Mae aelodau lleol o Gymdeithas yr Iaith wedi codi pryder fod hysbyseb swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol Adfywio a Pholisi Cyngor Sir Gâr yn gamarweiniol gan fod gofynion sgiliau iaith Cymraeg yn sylweddol is na'r sgiliau angenrheidiol Saesneg.
Bydd y Prif Weithredwr cynorthwyol yn gyfrifol am weithredu'r safonau iaith, strategaeth cyfathrebu a'r wasg, gwasanaethau cwsmeriaid a nifer o feysydd eraill felly mae Cymdeithas yr Iaith yn cwestiynu ble mae hyn yn gadael y sefydliad wrth iddo weithredu eu strategaeth iaith.

Dywedodd Richard Vale, llefarydd lleol ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Mae'r hysbyseb swydd yn gamarweiniol gan ei fod yn dweud:
'mae'n hanfodol eich bod yn medru gweithio'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg' ond wrth ddarllen y fanyleb swydd mae lefel gallu siarad Cymraeg yn is na'r Saesneg a does dim gofynion penodol o ran gallu ysgrifennu yn Gymraeg, er bod angen bod yn rhugl yn Saesneg.”

Mae gofynion llafar Cymraeg yn golygu bod rhywun yn gallu trafod gwaith yn eu maes eu hunain ond o bosibl yn cael trafferth gyda rhai elfennau 'annisgwyl' tra bod angen medru siarad Saesneg er mwyn gallu delio gyda phob agwedd o waith bob dydd.

Ychwanegodd Richard Vale:
Wrth gwrs, mae gosod lefelau iaith yn bwysig ond y prif beth yw fod y swyddog newydd yn defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Er mwyn gwneud hynny byddai gofyn i waith y cyngor ddigwydd yn Gymraeg - ar hyn o bryd gweithio yn Saesneg yw'r arfer, er bod digon o swyddogion sydd yn gallu siarad Cymraeg. Byddai gweld prif swyddogion y Cyngor yn gweithio drwy'r Gymraeg yn rhoi hyder ac yn dangos yn glir i holl weithwyr y Cyngor Sir fod y Gymraeg yn bwysig. Gallai hyn fod yn gyfle i arweinyddiaeth newydd y cyngor osod cyfeiriad newydd i'r sir, a sicrhau bod y Gymraeg yn wirioneddol wrth galon ei hagenda.
“Mae Panel Strategol y Gymraeg wedi trafod iaith y Cyngor mewn cyfarfod diweddar ac wedi dweud bod cyfle, wrth recriwtio o'r newydd, i ' gynyddu'r sgiliau dwyieithog o fewn y gweithlu'. Mae'n nhw'n colli cyfle yma felly ac mae angen holi pryd fydd pethau'n dechrau newid – pryd gwelwn ni'n Cyngor yn cymeryd camau pendant i ddechrau gweithio'r Gymraeg?”