Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diystyru proses ymgynghori Cyngor Sir Caerfyrddin wrth iddyn nhw edrych ar eu cyllideb, gan ei ddisgrifio yn “amherthnasol ar y gorau ac yn niweidiol i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg.”
Dywedodd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams:
"Rydyn ni'n aros yn eiddgar am adroddiad gan y grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd yn edrych ar ddyfodol y Gymraeg yn y sir, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y Gwanwyn. Rydyn ni'n hyderus y bydd yr adroddiad yn argymell newidiadau radical a blaengar i agwedd arwynebol y Cyngor tuag at y Gymraeg. Mae'r gyllideb ddrafft mae'r Cyngor yn ymgynghori arni ar hyn o bryd yn amherthnasol ar y gorau, ac i ddweud y gwir, yn niweidiol i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg gan ei fod yn lleihau cefnogaeth i'r pethau hyn.
"Rydyn ni'n disgwyl y bydd adroddiad y Cyngor yn mynnu fod y Gymraeg yn dod yn rhan hanfodol o holl wasanaethau'r Cyngor; a bod adfer a chynnal cymunedau Cymraeg yn dod yn flaenoriaeth i bob adran. Byddai hynny'n golygu fod cyllideb hollol wahanol.”
Mae'r Gymdeithas wedi awgrymu nifer o ffyrdd y gall y Cyngor leihau ei gyllideb, gan gynnwys argymell fod y Cyngor symud tuag at weithio drwy'r Gymraeg a chyfieithu i'r Saesneg yn ôl yr angen; a'u bod yn cydweithio gyda chymunedau lleol i ddefnyddio adnoddau sydd ar gael yn barod er mwyn atgyfnerthu cymunedau fel bod pobl yn gallu ac eisiau aros yn yr ardal i fyw eu bywyd.
Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad:
Rydyn yn gwrthwynebu'r toriadau i gyllideb ar y Gymraeg hyn ar sail y ffaith y bydd yn golygu llai o ddarpariaeth Gymraeg.
Yn fwy na hynny dylai'r Cyngor ddatgan fod y Gymraeg yn hanfodol a symud tuag at weithio drwy'r Gymraeg, yn hytrach na'i fod yn rhywbeth ychwanegol, sydd ar wahân. Dylai'r Cyngor hefyd gydnabod mai gwariant ar y Saesneg a phobl di-Gymraeg yw cyfieithu, nid gwariant ar y Gymraeg.
Dylai sicrhau felly fod popeth ar gael yn Gymraeg ac adolygu pa gyhoeddiadau sydd angen eu cyfieithu i'r Saesneg er mwyn sicrhau tegwch i drethdalwyr. Byddai gwneud hyn hefyd yn arwain y ffordd i gyrff a mudiadau drwy'r Sir a fydd yn atgyfnerthu'n Gymraeg yn naturiol ac yn golygu llai o wariant dros amser.
Rydym am weld y Cyngor yn ystyried y Gymraeg fel rhan o'u gwaith ar ddatblygu cynaliadwy. Mae nifer o'r gwasanaethau sydd yn cael eu crybwyll yn yr ymgynghoriad yn allweddol er mwyn i bobl allu ac eisiau aros yn ein cymunedau, a dal i gael bywyd llawn. Er enghraifft, os yw gwasanaethau gofal yn cael eu trosglwyddo i asiantaethau allanol mae'n hanfodol fod gwasanaeth Cymraeg ar gael – mae nifer o enghreifftiau ble nad yw pobl yn gallu neu yn gyfforddus i drafod materion iechyd yn Saesneg. Mae cylchoedd meithrin a chlybiau gofal hefyd yn hanfodol – nid yn unig byddai eu colli yn golygu bod llai o gyfleoedd i blant ond yn golygu llai o swyddi Cymraeg. Yn fwy na hynny mae nifer o ddysgwyr wedi gallu cael swyddi mewn cylchoedd meithrin a chlybiau plant gan roi cyfle iddyn nhw ymarfer a datblygu eu Cymraeg.
Yn yr un modd mae rhai pobl yn ddibynnol ar wasanaethau fel llyfrgelloedd cymunedol a bysiau i goleg addysg bellach. Hebddynt, gallai olygu na allant aros yn yr ardal a'n bod yn colli mwy a mwy o siaradwyr Cymraeg.
Dylai'r Cyngor Sir edrych o ddifrif ar ddatblygu canolfannau, neuaddau ac ysgolion sydd yn bodoli yn barod a'u defnyddio fel canolfannau cyflwyno gwasanaethau drwy gydweithrediad gwirfoddolwyr cymunedol. Dim ond bod y Cyngor yn gweithio gyda chymunedau lleol, yn lle cau adnoddau a chanoli popeth, bydd gwirfoddolwyr yn barod i fod yn rhan o ddarparu llawer o wasanaethau, gan arbed arian. Byddai angen ymchwilio a chreu cynlluniau peilot ar gyfer hyn fel man cychwyn.
Da o beth fyddai i'r Cyngor fod wedi gallu cael sylwadau y grŵp a sefydlwyd i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn y Sir yn dilyn canlyniadau'r Cyfrifiad ond rydyn yn nodi mai amseriad anffodus sydd tu ôl i hynny.
Yn bennaf oll rydym am ategu a phwysleisio fod angen i'r Gymraeg a chymunedau Cymraeg fod yn rhan o holl waith y Cyngor a bod yn flaenoriaeth i holl adrannau'r Cyngor.
Y stori yn y wasg:
Golwg 360: Cymdeithas yr Iaith yn Beirniadu Proses Sir Gâr
South Wales Guardian: Working in Welsh would reduce costs for Carmarthenshire County Council