Mae sawl arweinydd cyngor wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru am golli "cyfle hanesyddol" os nad ydyn nhw'n newid eu Bil Cynllunio er mwyn cryfhau'r Gymraeg, mewn llythyr agored a gafodd ei ryddhau heddiw (Dydd Gwener, Tachwedd 7fed).
Mae'r llythyr wedi ei lofnodi gan arweinwyr cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr ynghyd â chynghorwyr eraill. Mae'r llythyr agored gan y saith arweinydd yn dilyn gohebiaeth gan arweinydd Cyngor Sir Gâr sy'n galw am i'r Gweinidog Carl Sargeant wneud y Gymraeg yn ganolog i'r Bil.
Yn yr ohebiaeth, mae cynghorwyr yn galw am tri phrif newid i'r Bil: gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol fel bod modd caniatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith iaith yn unig; sicrhau bod cynghorau lleol yn cael penderfynu ar eu targedau tai ar sail anghenion lleol ac yn annibynnol o'r Llywodraeth yng Nghaerdydd; a sefydlu pwrpas statudol i'r drefn gynllunio fel bod modd lywio'r drefn mewn cyfeiriad sy'n llesol i'r amgylchedd, yr agenda taclo'r tlodi a'r Gymraeg.
Gan rybuddio am effaith peidio â newid y Bil, medd yr arweinwyr: "Pe collir y cyfle hanesyddol hwn i sicrhau bod y drefn gynllunio yn adlewyrchu anghenion Cymru, byddai'n peryglu ein gallu i gryfhau'r Gymraeg yn ein cymunedau am nifer o flynyddoedd i ddod."
Wrth groesawu'r datganiad gan nifer o gynghorwyr blaenllaw o nifer o bleidiau, dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae momentwm yn sicr tu ôl i'n hymgyrch, ac rwy'n meddwl y bydd yn amhosib i'r Llywodraeth wrthod newid y Bil erbyn hyn - mae 'na ormod o wrthwynebiad. Rydyn ni wedi darparu Gweinidogion Cymru gyda llawer iawn o opsiynau o ran cymalau i'w cynnwys yn y Bil, ac byddwn ni'n cwrdd â nhw eto wythnos nesaf i'w trafod yn bellach. Rydyn ni wir yn gobeithio y byddan nhw'n newid eu meddwl.
"Mae angen Bil er lles pobl Cymru, nid er hwylustod gweision sifil. Ymysg ein blaenoriaethau yw seilio'r nifer o dai ar anghenion lleol cymunedau, yn hytrach na thargedau cenedlaethol, gyda'r penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol. Mae hefyd angen gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol; fel mae'r arweinwyr wedi dweud mae angen yr eglurder bod modd i gynghorwyr wrthod neu ganiatáu datblygiad ar sail ei effaith iaith. Gyda'r gyfraith tu ôl iddi, gallai'r Gymraeg ffynnu ar lefel gymunedol dros y blynyddoedd i ddod."
Daw'r newyddion wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyflwyno i bwyllgor Amgylchedd y Cynulliad cannoedd o gardiau gan aelodau'r cyhoedd sy'n galw am newidiadau i'r system cynllunio fel rhan o'i ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth sy'n cau heddiw.
[Cliciwch yma i weld y llythyr llawn]
Y stori yn y wasg:
Tivy Side 05/11/14 - Welsh Language 'U-Turn' backed