Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi cwestiynau am gywirdeb cyfreithiol adroddiad yr Ombwdsmon am bolisi iaith cyngor cymuned Cynwyd.
Dywedodd Tamsin Davies, Ilefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Os yw'r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau mae angen i ragor - nid llai - o gynghorau weithio'n Gymraeg. Ac mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cytuno bod angen i ragor o gyrff ddilyn yr arfer gorau hwnnw er mwyn cynyddu defnydd yr iaith. Mae rhesymeg yr Ombwdsmon yn ddryslyd: nid oes modd cefnogi'r syniad y dylai cynghorau weithio'n fewnol yn Gymraeg mewn egwyddor, heb gefnogi hynny'n ymarferol. Dyna pam ei bod yn ymddangos o'r adroddiad nad yw safbwynt yr Ombwdsmon yn cyd-fynd â safbwynt Comisiynydd y Gymraeg.
"Hefyd, mae'n aneglur a yw'r Ombwdsmon wedi deall y sefyllfa gyfreithiol yn iawn. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at Ddeddf Iaith 1993, ac yn canolbwyntio ar ddehongli gweithredoedd y cyngor cymuned yn rhinwedd yr hen ddeddfwriaeth honno yn ogystal â hen ganllawiau. Cafodd egwyddorion deddfwriaeth 1993 eu disodli gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Erbyn hyn, mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Mae'r gyfraith a basiwyd yn 2011 hefyd yn sefydlu'r egwyddor newydd na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'n destun syndod nad oes cyfeiriad at yr egwyddor honno yn yr adroddiad, ac mae hynny'n codi cwestiynau am ddilysrwydd yr adroddiad yn ei gyfanrwydd. Byddwn ni'n ysgrifennu at yr Ombwdsmon yn gofyn iddo ail-ystyried ei safbwynt cyfreithiol. Nid yw'n ymddangos bod adroddiad yr Ombwdsmon yn gywir."