Cyngor Sir Caerfyrddin - Dim Pandas yma

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi mynd ’ llu o bandas at Neuadd y Sir Caerfyrddin am 9am heddiw o flaen cyfarfod Cyngor llawn a fydd yn pleidleisio ar fabwysiadu Cynllun Datblygu Unedol.

Esbonia Cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin, "Os caiff argymhellion y Cynllun eu gweithredu, bydd cymunedau Cymraeg y sir yn fwy prin na pandas !"cymunedau_cymraeg_prin_caerfyrddin.jpgBu swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yn fwy hy nag unrhyw gyngor arall yn yr ymdrechion i gael gwared o gymunedau Cymraeg.

  • Mae Cyngor Sir Benfro yn cau 2 ysgol bentrefol Gymraeg ar y tro, ond mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llawer fwy effeithiol wrth gael gwared ’'r pandas bach trwy gyhoeddi cynlluniau i gau 7 ysgol bentrefol Gymraeg mewn un flwyddyn !
  • Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi bwriad i ganiatau 6500 o dai newydd yn eu Cynllun Datblygu Unedol, ond mae cynllun Cyngor Sir G’r yn seiliedig ar nod o ddenu 27,000 o fewnfudwyr i'r sir erbyn 2016 !
  • Heddiw (ddydd Mawrth 29/7), bydd cyfarfod Cyngor llawn Sir Gaerfyrddin yn ystyried eu cynigion terfynol ar gyfer Cynllun Datblygu Unedol y Sir - y ddogfen fydd yn sail i bob penderfyniad ar reoli datblygu yn Sir G’r hyd at y flwyddyn 2016. Mae'r ddogfen ddrafft - dogfen swmpus a gyflwynwyd ar gyfer ymgynghori cyhoeddus ym mis Tachwedd 2002, yn cynnwys tair brawddeg o bolisi ar"Yr Iaith a'r Diwylliant Cymraeg".Dywed y polisi hwnnw y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn "amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg a'u hyrwyddo ymhellach" ac yn "gwrthsefyll cynigion datblygu o raddfa a chymeriad sy'n debygol o greu bygythiad sylweddol i anghenion a buddiannau'r iaith Gymraeg".Fodd bynnag, does dim unrhyw arwydd o effaith y polisi hwn ar brif gynigion y CDU ble cynigir polisÔau y mae'n gwbl amlwg nad yw eu heffaith ar ddyfodol y Gymraeg yn y Sir wedi'i ystyried. Nid oes unrhyw ymdrech i gloriannu'r polisÔau ar Dai, Cyflogaeth, Adwerthu, Trafnidiaeth, Twristiaeth nac Adloniant yng nghyd destun yr hyn sydd ei angen i sicrhau dyfodol Cymraeg i gymunedau'r Sir. Ymhellach, mae nifer o gynigion polisi'r Cynllun yn rhai fyddai'n sicr o gyfrannu at danseilio cymunedau Cymraeg, yn arbennig felly y dyraniadau a wneir ar gyfer datblygu tai.Er nad yw'r papurau sy'n ymwneud ’'r drafodaeth hon wedi'u rhyddhau i'r cyhoedd, mae Cymdeithas yr Iaith yn cael ar ddeall mai argymhelliad swyddogion yw y dylid gwrthod sylwadau Cymdeithas yr Iaith ar y ddogfen ymgynghorol a pharhau i ddyrannu tir ar gyfer 11,771 o dai newydd yn Sir G’r. Yn Ùl ffigyrau'r Cyngor eu hunain, bydd y dyraniad hwn yn hwyluso mewnfudiad o dros 27,000 (dros 16% o lefel y boblogaeth bresennol) i'r Sir. Unwaith eto felly, ddydd Mawrth, mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn "Beth yw'r Pwynt?" yn Sir G’r:
  • Beth yw'r pwynt cynnwys polisÔau ar yr iaith Gymraeg sy'n ymddangos yn gadarnhaol yn nogfennau'r Cyngor os bydd prif gynigion y dogfennau hynny yn arwain at weithredoedd sy'n tanseilio'r iaith a chymunedau Cymraeg Sir G’r?
  • Beth yw'r pwynt cael swyddogion cynllunio lleol sy'n dilyn modelau rheoli datblygu a luniwyd yn Lloegr at ddibenion cynllunwyr yn Lloegr (e.e. Model Rhagamcanu Gofynion Tai Cyngor Sir Norfolk) yn hytrach na chynllunio ar sail anghenion cymunedau lleol?
  • Beth yw'r pwynt i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo Cynghorau Sir i ystyried yr iaith Gymraeg yn ffactor yn y drefn gynllunio os nad oes gan Gynghorau Sir yn yr ardaloedd Cymreiciaf weledigaeth ynglyn ’ sut i wneud hynny?
  • Beth yw'r pwynt i Blaid Cymru wrthwynebu cynlluniau fel hyn pan fyddant yn wrthblaid, fel yng Ngheredigon, os na allant atal cynllun sy'n dilyn yr un egwyddorion ac sydd yr un mor niweidiol i gymunedau Cymraeg pan fyddant ’ chyfrifoldeb llywodraethu, fel yn Sir G’r?
  • Beth yw'r pwynt i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi trefn gynllunio newydd fydd yn caniat’u i Gynghorau Sir lunio Cynlluniau Gweithredu er mwyn cynllunio ar sail anghenion ardaloedd penodol os bydd y Cynlluniau Datblygu Unedol eisoes wedi agor y ffordd i hap-ddatblygwyr elwa ar draul cymunedau Cymraeg?
  • Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar gynghorwyr Sir G’r i wrthod derbyn yr argymhellion fydd ger eu bron ddydd Mawrth ac i fynnu bod eu Swyddogion Cynllunio yn gwneud tipyn o waith dros gymunedau'r Sir ac yn dod yn Ùl ’ Chynllun fydd yn galluogi'r Cyngor i reoli datblygu mewn modd fydd yn gallu ymateb i anghenion lleol ac a fydd yn cyfrannu tuag at ffyniant cymunedau Cymraeg yn Sir G’r yn hytrach na'u tanseilio. Hoeliwn sylw arbennig unwaith eto ar Blaid Cymru gan ddisgwyl iddynt fod mor benderfynol eu gwrthwynebiad i gynlluniau Swyddogion Cynllunio Sir G’r ag y maent i gynlluniau cyfatebol Ceredigion ac i ddefnyddio eu grym fel rhan o'r grwp sy'n rheoli Cyngor Sir G’r er sicrhau newid.Y Stori oddi ar BBC Cymru'r BydY Stori oddi ar BBC Wales / South West