Cyngor Sir wyneb yn wyneb â phentrefwyr mewn protest dros ysgolion pentref

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin gynrychiolydd anarferol i wynebu pentrefwyr ac ymgyrchwyr mewn Protest dros Ysgol Mynyddcerrig y penwythnos hwn. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno "Injan Ffordd" - neu Roliwr - fel cynrychiolydd y Cyngor Sir i'r cyfarfod i symboleiddio awydd y cyngor i orfodi'i strategaeth amhoblogaidd o gau ysgolion ar bobl y sir gan sathru ar unrhyw wrthwynebiad.

Wrth annerch y Cyfarfod Brotest - a drefnir am 1pm Sadwrn tu allan i Ysgol Mynyddcerrig gan bentrefwyr, Fforwm Ysgolion Sir Gar a'r Gymdeithas - bydd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Addysg, Ffred Ffransis, yn cyfeirio at ddatganiad y Cyng Clive Scourfield (Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg) "na welodd beth yn rhagor y gallai'r Cyngor ei wneud heblaw am gynnal y cyfarfod statudol gyda staff, rhieni a llywodraethwyr" yn rhan o'r broses derfynol o ymgynghori am gau'r ysgol. Ymateb Mr Ffransis fydd:"Beth allasai'r Cyngor fod wedi'i neud? Gallai'r Cyngor ddilyn arweiniad Cyngor Caerdydd sydd wedi cyflwyno eu cynlluniau controfersial i gau ysgolion am dymor o ymgynghori ledled y sir am yr holl egwyddor.""Gallai'r Cyngor ddilyn arweiniad Cyngor Ceredigion trwy gynnal Cyfarfodydd Agored ym mhob ardal i holi barn pobl yn lle ceisio gwthio trwodd agenda'r Cyngor.""Gallai'r Cyngor gynnal ymgynghori onest trwy drafod yr holl opsiynau posibl ar gyfer ysgolion fel Mynyddcerrig yn hytrach na chynnig yr un opsiwn o gau ysgolion pentre en bloc a chreu Ysgolion Ardal newydd ar gyfer pob un ardal o'r sir.""Gallai'r Cyngor gydnabod y cynnydd addysgol aruthrol ym Mynyddcerrig a chryfhau hyn trwy ffurfioli cydweithio gydag ysgolion cyfagos."Gallai'r Cyngor gymryd o ddifri ei Amcan Strategol ei hun o "ddiogelu cymunedau Cymraeg" trwy gydnabod mai'r ysgol yw un o'r asedau pwysicaf sydd gan y cymunedau hyn a'r peiriant ar gyfer eu hadfer.""Gallai'r Cyngor ddewis rhesymoli cadarnhaol trwy hybu defnydd cymunedol helaethach o adnoddau'r ysgol yn lle rhesymoli negyddol hen-ffasiwn o gau ysgol.""Gallai'r Cyngor geisio cyfuno cyllidebau addysg statudol, addysg cymunedol a datblygu cymunedol i uwchraddio cyfleusterau ysgolion fel Mynyddcerrig.""Gallai'r Cyngor sicrhau Astudiaethau Effaith ar yr Iaith, y Gymuned a'r Amgylchedd o gau'r ysgol.""Yn bennaf oll, gallai'r Cyngor weithio gyda rhieni a llywodraethwyr yn lle eu gweld o hyd yn rhwystrau i'w goresgyn.""Dylai Cynghorwyr fel Mr Scourfield wneud safiad dros eu cymunedau yn hytrach nag ailadrodd fel parot eiriau swyddogion y Cyngor. Gallen nhw weithio gyda phobl sy'n teimlo'n angerddol dros addysg eu plant a dyfodol eu cymunedau'n hytrach na cheisio eu bwrw i lawr.""Gan fod y Cyngor wedi gwrthod y cyfle i bobl Sir Gaerfyrddin gael lleisio eu barn am y strategaeth gyffredinol o ganoli addysg a chau ein holl ysgolion pentrefol, rhaid galw ar y bobl i ymuno ym mhob brwydr lle mae bygythiad i ysgol yn groes i ddymuniadau'r gymuned leol. Mae'r frwydr hon wedi cychwyn yn awr yma ym Mynyddcerrig."Protest tu allan i ysgol dan fygythiad - BBC Cymru'r BydRally at threatened small school - BBC WalesProtest at school closure plan - Western MailCampaigners to take school battle to Cardiff - South Wales Evening Post