Mae Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto heddiw’n lansio ei strategaeth amhoblogaidd i “foderneiddio” addysg – a hynny dros fis cyn y bydd y cynghorwyr yn trafod y mater ar yr 8ed Rhagfyr gan ddangos dirmyg at ddemocratiaeth.
Mewn ymdrech wyllt i guddio’r ffaith mai cau degau o ysgolion a chanoli yw unig sail y “strategaeth”, mae’r Cyngor yn defnyddio rhieni dethol i roi cefnogaeth i’w safbwynt. Mae’r Cyngor wedi gwrthod cais gan Gymdeithas yr Iaith i roi llwyfan i rieni eraill sy’n gweld fod effaith drychinebus i bolisiau’r Cyngor.Mae Cymdeithas yr Iaith felly’n cyhoeddi heddiw tystiolaeth rhieni o Lanfihangel-ar-arth – pentre y gygwyd ei hysgol oddi arno gan y Cyngor. Mae Margaret Bowen (gwraig fferm a thiwtor addysg o’r pentre) yn tystio fel y mae’r penderfyniad i gau’r ysgol wedi arwain at gau’r siopau lleol a thanseilio’r gymuned leol. Mae’n annog rhieni mewn pentrefi eraill i frwydro ac i beidio â chredu “addewidion gwag” y Swyddogion Addysg. Bu gan Margaret 3 o blant yn yr ysgol gynradd yn Llanfihangel-ar-arth ac un arall yn yr uned feithrin.Bydd y Gymdeithas yn cynnal protest fawr tu allan i Neuadd y Sir ar yr 8ed Rhagfyr pan drafodir y mater gan y Cyngor llawn am y tro cyntaf. Mae’r Aelod Cynulliad rhanbarthol – Helen Mary Jones – wedi cytuno i annerch y protestwyr ynghyd â siaradwyr o lawer iawn o’r cymunedau tan fygythiad.Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Carmarten JournalTystiolaeth Margaret Bowen – ar ran rhieni Llanfihangel-ar-arthMae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi datgan yn ddiweddar eu bod nhw am greu ysgolion cymunedol newydd fel rhan o'u polisi moderneiddio addysg yn y sir. Er mwyn creu yr ysgolion newydd hyn bydd rhaid i'r cyngor gau llawer o ysgolion bach y wlad, ysgolion sydd yn darparu addysg o safon uchel iawn i'w disgyblion yn eu cymunedau lleol.Tair blynedd yn ôl, daeth swyddogion y cyngor i Lanfihangel-ar-arth i drafod eu syniadau o wella darpariaeth addysg yn yr ardal, roedd llawer o opsiynau posibl yn cynnwys ffederaleiddo, clystyru a chau. Er gwaethaf dymuniadau'r plant, rhienu a phentrefwyr i gadw'r ysgol ar agor yn y pentref penderfynwyd cau'r ysgol a chreu ysgol gymunedol ym Mhencader.Mae'r Cyngor yn hoff iawn o siarad am gymunedau, wrth agor ysgolion cymunedol maent yn dweud eu bod yn buddsoddi mewn cymunedau lleol, ond y gwir yw eu bod yn cyfrannu tuag at ddirywiad cymunedau bychain mewn pentrefi lle nad oes ysgol. Wrth gau ysgolion mewn pentrefi bychain mae'r swyddogion yn dweud y byddant yn rhoi cefnogaeth i helpu adfywio'r cymunedau lleol ond y gwir yw eu bod yn anghofio amdanyn nhw.Yn Llanfihangel-ar-arth ers colli'r ysgol tua dwy flynedd yn ôl, mae'r ddwy siop yn y pentref wedi cau ac mae'r pentrefwyr yn gorfod brwydro i greu canolfan yn hen adeilad yr ysgol a fydd yn wasanaethu'r gymuned heb lawer o gymorth gan y cyngor sir. Yr ydym wedi dysgu mai addewidion gwag oedd geiriau swyddogion y cyngor yn ystod y proses ymgynghori.Y mae'r pentref ar goll heb ysgol, nid oes dwywaith amdani. Dylai'r cyngor gweithio cyda chymunedau lleol nid yn eu herbyn, dylen nhw wneud pob ymdrech i gadw ysgolion bach ar agor fel bod plant yn gallu cael eu haddysgu yn eu cymunedau lleol. Mae cymunedau mewn pentrefi bychain yr un mor bwysig â chymunedau eraill, gwir ystyr ysgol gymunedol yw ysgol sy'n gwasanaethu ei chymuned leol, dyna beth oedd gyda ni yn Llanfihangel-ar-arth.Mae'r ysgol wedi cau erbyn hyn ond nid yw'n rhy hwyr i'r 30 o ysgolion sydd o dan fythygiad nawr. Mewn undod mae nerth, brwydrwch i gadw eich ysgol fach leol ar agor, mae'r amser wedi dod i'r cyngor wrando ar y bobl.Margaret Bowen(Rhiant i 3 o blant a fu yn Ysgol Llanfihangel-ar-arth, ac un yn yr Uned Feithrin yno)