CYNGOR SIR YN HERIO GWEINIDOG ADDYSG AR BWNC YSGOLION GWLEDIG

Pleidleisiodd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol ddydd Llun y 27ain o Fedi dros ysgrifennu at y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles AS, i bwyntio allan nad oedd DIM UN ysgol fach yng Nghymru wedi derbyn arian gan Gronfa Ysgolion y 21ain ganrif i uwchraddio adeilad, a bod hyn yn groes i bolisi honedig y llywodraeth o rhagdyb o blaid cadw a datblygu ysgolion gwledig.

Ar ran Cymdeithas yr iaith yn lleol, dywedodd Ffred Ffransis "Byddwn ninnau'n mynnu hefyd fod Jeremy Miles yn cynnig esboniad am hyn. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau Cymdeithas yr iaith mewn cyfarfod ychydig o wythnosau yn ôl fod arian o'r gronfa ar gael ar gyfer uwchraddio adeiladau ysgolion presennol (yn cynnwys ysgolion Pentrefol) yn ogystal ag ar gyfer adeiladau ac ysgolion newydd. Gofynnwn y cwestiwn : 'Ai swyddogion Bwrdd Cronfa Ysgolion yr 21ain ganrif sy'n tanseilio polisi'r llywodraeth, neu ai'r Awdurdodau Lleol sy ddim yn cyflwyno ceisiadau am arian i uwchraddio ysgolion bach ac yn canolbwyntio ar brosiectau prestige yn unig ?' Mae cymunedau gwledig yn disgwyl ateb i weld ble mae'r cyfrifoldeb am y methiant, gan nad ydynt yn derbyn unrhyw gyfran o'r gyllid ar hyn o bryd."

Paratowyd y cynnig i'r Cabinet gan Weithgor Gorchwyl a Gorffen gan y Pwyllgor Craffu Addysg dan gadeiryddiaeth y Cyng Darren Price.

Derbyniwyd hefyd gynnig arall gan y Cabinet y dylid gofyn i'r Gweinidog wneud symud ysgolion ar hyd y continwwm tuag at addysg Gymraeg yn fater i'r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn hytrach nag yn fater i'r Cod Trefniadaeth Ysgolion fel na bo raid cynnal ymgynghoriad llawn bob cam o'r ffordd tuag at addysg Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd yn cyd-fynd â'r cais hwn ac â geiriau Cyng Darren Price mai "proses yw hwn, nid digwyddiad"