Cyngor Wrecsam yn cadarnhau ei fod yn cynnig gwasanaeth is-raddol yn Gymraeg - adroddiad

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw eto am ddiswyddo aelod cabinet Cyngor Wrecsam wrth i'r awdurdod cadarnhau bod cwsmeriaid Cymraeg yn cael gwasanaeth israddol mewn adroddiad newydd.

Mewn adroddiad perfformiad gwasanaeth cwsmeriaid gerbron pwyllgor craffu heddiw (dydd Mercher, 26ain Mehefin), mae’r Cyngor yn datgelu bod cwsmeriaid dros dwywaith yn fwy debygol o gael eu helpu’n syth os ydyn nhw’n dewis Saesneg yn hytrach na Chymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud na ellir y Cyngor ddisgwyl i weld cynnydd ystyrlon mewn defnydd ei wasanaethau Cymraeg tra bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth israddol.

Mae Ifan Williams, cyn swyddog llywodraeth leol a symudodd i Wrecsam yn y 1970au wedi’i siomi gan y Cyngor: “Wrth gynnig y Gymraeg neu’r Saesneg, mae’r Cyngor yn rhoi’r argraff bod gwasanaeth cyfartal yn y ddwy iaith, ond yn aml dyw’r gwasanaeth Cymraeg ddim yn bodoli dim bellach na’r cyfarchiad.”

Mae tua 30% o’r staff gwasanaethau cwsmeriaid yn ddwyieithog eto mae’r adroddiad yn dangos bod y cyngor yn cadw ei darged ar 15%, rhywbeth mae Aled Powell, cadeirydd Cell Wrecsam o’r Gymdeithas, yn dweud sy’n arwydd o “diffyg llwyr unrhyw awyddu i wella pethau.”

Ysgrifennodd y Gymdeithas at arweinydd y cyngor, y Cyng. Mark Pritchard, yn gynharach yn y mis yn gofyn am dynnu cyfrifoldeb dros y Gymraeg oddi wrth yr aelod cabinet Cyng. Hugh Jones.

Mae Comisiynydd y Gymraeg ar hyn o bryd ar ganol ymchwiliad i honiadau bod system ffôn y Cyngor weithiau yn gofyn i bobol – wedi iddyn nhw dewis Cymraeg – naill ai i ddewis Saesneg neu i ffonio nôl rhywbryd eto cyn rhoi’r ffôn lawr arnyn nhw. Gorfododd y Comisiynydd y Cyngor i stopio’r arferiad ar ôl ymchwilio i union yr un peth nôl yn 2017.

Ychwanegodd Mr Powell:

“Gan ei fod yn ei adroddiad fo, rydyn ni wedi ysgrifennu at y deiliad portffolio sy’n gyfrifol am wasanaethau cwsmeriaid, Cyng. David Kelly, gan fynegi ein pryderon ac yn gofyn am eglurder am rai o’r ffigyrau.

“Rydyn ni’n obeithiol y gwnaiff o ddangos arweiniad gwell na rhai o’r cydweithwyr yn y cabinet a gweithredu er mwyn gwella pethau.”