Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda newid polisi a fyddai’n atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio, yn ôl bargyfreithiwr.
Mae pwyllgor o gynghorwyr o Wynedd ac Ynys Môn wrthi’n ystyried canllawiau cynllunio atodol, a fyddai, ymysg materion eraill, yn golygu mai canran fach iawn o geisiadau cyllunio asesiad effaith iaith llawn. Roedd polisi Cyngor Gwynedd yn arfer mynnu asesiad effaith iaith llawn ar gyfer pob cais i adeiladu pum neu’n fwy o dai.
Mewn cyngor cyfreithiol sydd wedi ei anfon at gynghorwyr Gwynedd ac Ynys Môn, dywed y bargyfreithiwr Gwion Lewis:
“Ymddengys y cytunwyd ar eiriad terfynol… y Cynllun Datblygu yn ystod y cyfnod ymgynghori ar gyfer [canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru]. Credaf fod geiriad y polisi yn ddiffygiol gan nad ydyw, yn groes [i’r Ddeddf a chanllawiau cynllunio mwy diweddar y Llywodraeth], yn datgan yn glir y “[g]all ystyriaethau yn ymwneud â’r defnydd o’r Gymraeg gael sylw gan benderfynwyr cyn belled â’u bod yn berthnasol i geisiadau am ganiatâd cynllunio”. Yn hytrach, yr awgrym cryf yn y polisi yw y dylid ond rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg os yw’r meini prawf ar gyfer darparu “Datganiad Iaith Gymraeg” neu “Asesiad Effaith Iaith Gymraeg” yn cael eu cwrdd.”
“... ni fyddai “atal” neu “wahardd” asesiad effaith iaith ar sail y [polisiau a chanllawiau] yn unig yn synhwyrol yn gyfreithiol ac fe allai sail ar gyfer adolygiad barnwrol godi oni ddilynir [fy nghyngor].
“Oni ddilynir [fy ngh]yngor ... credaf y byddai sail ar gyfer gwneud cais am adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys. Byddai sail ar gyfer cais o’r fath yn fwyaf tebygol o godi pe bai un o’r Cynghorau yn rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad heb ofyn am ddatganiad neu asesiad o’i effaith ar yr iaith Gymraeg, er bod y dystiolaeth yn awgrymu y byddai’n cael effaith o bwys na chafodd ei hystyried yn ddigonol wrth baratoi’r cynllun datblygu.”
Daw’r cyngor cyfreithiol i’r amlwg cyn i gynghorwyr benderfynu ar un o’r dogfennau sy’n ffurfio rhan o gyfres o ganllawiau cynllunio atodol ddiwedd yr wythnos hon (dydd Gwener, 14eg Mehefin). Mewn llythyr at gynghorwyr, meddai Menna Machreth o ranbarth leol Cymdeithas yr Iaith:
“Effaith y canllawiau arfaethedig fyddai atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol yn y rhan helaeth o achosion. Oherwydd y gyfundrefn arfaethedig hon, fe fyddai’r ceisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno heb asesiadau effaith iaith ohonynt, ac felly ni fyddai modd i gynghorwyr gael sail tystiolaeth i fedru gwrthod neu gymeradwyo cynlluniau ar sail eu heffaith ar y Gymraeg.
“Fodd bynnag, diolch i gyngor Mr Lewis, mae eglurder ar ddau bwynt o bwys aruthrol i sefyllfa’r Gymraeg yn lleol ac i gyfreithlondeb y canllawiau cynllunio atodol...Yn gyntaf, byddai Cyngor Gwynedd a Chyngor Ynys Môn yn agored i heriau cyfreithiol pe bai’r canllawiau yn cael eu cymeradwyo fel y maent… Yn ail, ac o ganlyniad i ddiffygion cyfreithiol canllawiau cynllunio Llywodraeth Cymru, argymhellir y dylid ailymweld â chymalau perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol ar y cyfle cyntaf posib fel bod modd ail-ystyried yn llawn polisi’r cyngor yn ymwneud ag asesiadau effaith iaith.
“Gwn eich bod yn sylweddoli pwysigrwydd y mater hwn i sefyllfa’r Gymraeg … Gobeithio y bydd modd i chi naill ai gytuno i’r newidiadau a argymhellir gan Mr Lewis neu ohirio penderfyniad ar y canllawiau fel bod modd rhoi ystyriaeth bellach i’r argymhellion cyn gwneud penderfyniad terfynol.”
Mae Cymdeithas yr Iaith bellach yn dadlau bod aneglurder difrifol ymysg cynghorwyr a swyddogion ynghylch pryd y dylen nhw gynnal asesiad effaith iaith ar gais cynllunio. Mae’r mudiad nawr yn galw am ddeddfwriaeth newydd sy’n sefydlu cyfundrefn newydd sy’n creu dyletswydd i gynnal asesiad effaith iaith.