Cynllun Datblygu Gwynedd-Môn 'yn annilys' wedi pleidlais gyfartal

'Ni fedr Cynghorwyr Môn ei basio ddydd Llun rŵan' medd y mudiad 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i bleidlais gyfartal cynghorwyr Gwynedd heddiw ar y Cynllun Datblygu Lleol 

Yn sgil y bleidlais gyfartal yng Nghaernarfon, dywed y mudiad y bydd yn rhaid i'r cynllun gael ei wrthod gan gynghorwyr Ynys Môn ddydd Llun gan nad oes consensws o'i blaid yng Ngwynedd. Mae'n rhaid i'r cynllun dderbyn cefnogaeth y ddau gyngor cyn iddi gael ei fabwysiadu.  

Meddai Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'n amlwg o'r bleidlais gyfartal heddiw nad oes digon o gefnogaeth i'r cynllun fel y mae yng Ngwynedd, ac mae angen ei ail-feddwl. Fyddai hi ddim yn ddemocrataidd, nag yn gall, i gynghorwyr Môn ei basio ddydd Llun, gan nad yw'r cynllun yn un gadarn yn ddemocrataidd erbyn hyn. Yn wir, mae 'na gwestiynau am gyfreithlondeb y penderfyniad, gan na chynhaliwyd pleidlais ar ddau gynnig dilys a wnaed gan gynghorwyr i ohirio'r penderfyniad. Mae lle dadlau bod y bleidlais yn annilys felly. 

"Mae'n glir bod y targedau tai sy'n cael eu gorfodi ar gynghorau lleol yn annheg ac yn anghynaladwy yn ieithyddol. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru a chynghorau sir wrando ar lais y bobl a gweithredu er lles holl gymunedau Cymru a'r Gymraeg - dylen nhw weithredu system eiddo a chynllunio sy'n llesol i'r iaith. 

"Mae swyddogion cynghorau yn dawnsio i diwn Llywodraeth Llafur Cymru yng Nghaerdydd. Dyw'r Gymraeg a'n cymunedau ddim yn medru'r fforddio i hynny barhau. Mae'n bryd anfon neges i'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd bod y Gymraeg a chymunedau lleol yn bwysicach nag adeiladu fwyfwy o dai i lenwi coffrau datblygwyr mawrion."