Meddai un o'r ymgyrchwyr:
“Er bod sefyllfa'r Gymraeg o ran addysg yn eithaf da yn y sir dydy hi ddim fel petai nhw'n mynd llawer pellach na hynny. Tu fas i'r ysgol mae llawer o weithgareddau'r sir yn uniaith Saesneg; mae llawer o bobl ifanc yn gadael y sir ar ôl gadael yr ysgol er mwyn mynd ymlaen â'u haddysg neu i gael gwaith ond yn methu dod nôl wedyn am nad oes gwaith neu am nad oes tai. Mae'n drueni bod y Cyngor yn rhoi cymaint o bwyslais ar addysg Gymraeg ond yn colli siaradwyr Cymraeg ifanc wrth fethu a sicrhau dilyniant.”
Lansiodd Cymdeithas yr Iaith y ddeiseb yn dilyn rali yn Aberystwyth ddechrau'r flwyddyn gan ddatgan fod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn dangos fod yr argyfwng cenedlaethol sydd yn wynebu'r Gymraeg yn arbennig o ddifrifol yng Ngheredigion. Am y tro cyntaf mae canran niferoedd sy'n siarad Cymraeg yn y sir wedi disgyn o dan 50%.
Ychwanegodd Hywel Griffiths Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
“Mae'r Cyngor wedi cydnabod y broblem fod pobl ifanc yn gadael y sir ac nad ydynt yn dychwelyd nes ar ôl dechrau magu teulu ond eto dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth. Mae'r ddeiseb yma yn galw ar i'r Cyngor weithredu mewn tri maes penodol ac yn rhoi galwadau clir arnyn nhw i weithredu. Yn ein Maniffesto Byw, a lansiwyd dros y penwythnos, mae Cymdeihas yr Iaith yn nodi cyfres o argymhellion ar gyfer y Llywodraeth, Awdurdodau Lleol a chymunedau o beth gallwn ni gyd wneud i weithredu dros y Gymraeg.
“Rydyn ni'n ddiolchgar felly i Ellen ap Gwynn am ddod i dderbyn y ddeiseb - mae pobl o bob rhan o Geredigion wedi ei harwyddo, ac rydym yn disgwyl ymlaen yn eiddgar i weld beth fydd camau nesaf y Cyngor.”
Y stori yn y Carmarthen Journal 19/06/13 - Language group in call for action
Y stori yn y South Wales Guardian - 14/06/13 - Petition Presented to Council