Cysgu ar y stryd dros Ddeddf Eiddo

cysgu_yn_aberystwyth.jpg Dros yr wythnos nesaf, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau gyda'r daith drwy Gymru i ledaenu ymwybyddiaeth ynglŷn â’r angen am Ddeddf Eiddo.

Dyma fesur a gyflwynwyd gan y Gymdeithas, er mwyn ceisio ateb yr argyfwng tai sydd yn tanseilio cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg. Yn ystod y daith – fydd yn para am wythnos – bydd aelodau’r Gymdeithas yn cysgu’r nos ar strydoedd gwahanol drefi ledled y wlad.Pwysa yma i weld lluniau o'r daithY gobaith yw y bydd hyn yn fodd o bwysleisio’r graddau y mae’r argyfwng tai yn parhau i frathu ein cymunedau. Cafodd y daith ei lansio ar ddydd Sadwrn olaf Eisteddfod yr Urdd tu allan i Uned y Cynulliad ar y Maes.Y bwriad yw i ymweld â’r trefi canlynol:(byddant yn cyrraedd y trefi am 5pm a gadael am 2pm y diwrnod canlynol)- Llandysul – Sul, Mehefin 5- Aberystwyth – Llun, Mehefin 6- Pwllheli – Mawrth, Mehefin 7- Caernarfon – Mercher, Mehefin 8- Rhuthun – Iau, Mehefin 9- Bala – Gwener, Mehefin 10Yn ogystal, yn ystod y daith bydd aelodau’r Gymdeithas yn casglu enwau ar ddeiseb yn galw am Ddeddf Eiddo.Pwyswch yma i lawrlwytho copi o'r ddeiseb!Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith:"Mae llawer o sôn wedi bod ynglŷn â’r gwahanol broblemau tai sydd yn tanseilio ein cymunedau. Nod Cymdeithas yr Iaith yn awr yw i dynnu sylw at atebion. Mae Deddf Eiddo yn bolisi cynhwysfawr sydd yn ymdrin â phob agwedd o’r argyfwng tai ac yn ceisio mynd at wraidd y problemau hynny.""Amcan Deddf Eiddo yw i estyn elfen o reolaeth dros y farchnad dai, er mwyn diwallu anghenion pobl Cymru am dai, a thrwy hynny, cyfrannu at sicrhau cynaladwyedd cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg.""Trwy’r gyfrwng y daith a’r gwaith o gasglu enwau ar y ddeiseb, ein gobaith yw y bydd modd casglu cefnogaeth eang i’r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo."Rali Tryweryn – Deddf EiddoBydd yr wythnos o ymgyrchu yn cyrraedd ei benllanw ar ddydd Sadwrn Mehefin 11, gyda’r rali yn galw am Ddeddf Eiddo a gynhelir ar lan Llyn Celyn. Ymhlith y siaradwyr yn y rali, bydd Elfyn Llwyd – Aelod Seneddol Meirionydd Nant Conwy.Meddai Huw Lewis:"O bosib, hanes boddi Cwm Celyn, ger y Bala, yw’r enghraifft enwocaf o gymuned leol Gymraeg yn colli’r hawl i reoli ei dyfodol ei hun. Erbyn heddiw, mae ein cymunedau yn cael eu bygwth gan rym o fath gwahanol – grym anweladwy y farchnad dai. O ganlyniad,dyma leoliad addas ar gyfer rali yn galw am Ddeddf Eiddo."Stori oddi ar wefan North Wales Weekly NewsStori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Cambrian NewsStori oddi ar wefan BBC Mid Wales (Aberystwyth)Stori oddi ar wefan y Western Mail (Aberystwyth)Stori oddi ar wefan thisissouthwales.co.ukStori oddi ar wefan y Western Mail (Llandysul)Stori oddi ar wefan y Carmarthen Journal