‘Cywiro’ degau o arwyddion ffyrdd Saesneg yn Wrecsam

Mae ymgyrchwyr iaith wedi gosod sticeri ar wyth deg o arwyddon ffyrdd Cyngor Wrecsam dros y penwythnos. 

Mae cannoedd o arwyddion ‘Ildiwch’ yn sefyll ar hyd a lled y sir wedi eu gosod yn uniaith Saesneg, ‘Give Way’, ac felly hefyd yn anghyfreithlon, yn ôl cadeirydd Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith, Aled Powell. 

Daw’r newyddion cyn i gynghorwyr drafod adroddiad damniol gan Gomisiynydd y Gymraeg ddydd Mercher yma ynghylch methiannau cyson y Cyngor i godi arwyddion ffyrdd sy’n ddwyieithog. Yn siarad am y weithred, dywedodd Aled Powell:

“Ers cyn i Gyngor Wrecsam cael ei ffurfio ym 1996, mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau yng Nghymru i osod arwyddion ffyrdd yn y Gymraeg a’r Saesneg. 

“Ond pan symudais i fyw yn ardal Wrecsam sylwais fod un math o arwydd yn sefyll ym mhobman heb air o Gymraeg, fel creiriau o hen oes a fu pan roedd rhai pobol yn credu mai Saesneg oedd yr unig iaith o unrhyw werth.” 

Mae ymgyrchwyr wedi gosod sticer ar ddwsinau o’r arwyddion fel eu bod nawr yn cynnwys y Gymraeg, ‘ILDIWCH’.  Cyn newid i drefn ei safonau Cymraeg newydd yn 2015, roedd gan Gyngor Wrecsam bolisi o roi’r Saesneg yn gyntaf ar arwyddion ffyrdd, yn wahanol i nifer o siroedd eraill. 

Esboniodd Aled Powell pam fod un math o arwydd wedi ei drin yn wahanol: “Dyw siâp unigryw'r arwyddion hyn ddim yn caniatáu gosod y gair Cymraeg islaw’r term Saesneg felly roedd yn rhaid i Gyngor Wrecsam gwneud eithriad i'w gynllun iaith Gymraeg. 

“Ond yn hytrach na rhoi’r Gymraeg yn gyntaf, penderfynodd y Cyngor peidio â rhoi’r Gymraeg o gwbl. 

“Mae swyddog Cymraeg y Cyngor yn honni i'r awdurdod fod wedi derbyn cyfarwyddiadau gan awdurdod uwch yn eithrio’r arwyddion hyn o ddeddfwriaeth am y Gymraeg. 

“Dw i wedi ysgrifennu a gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg, i Lywodraeth Cymru ac i Swyddfa Cymru'r llywodraeth yn San Steffan a does dim un wedi medru cadarnhau esboniad y Cyngor.” 

Roedd gwybodaeth am yr arwyddion hyn yn destun apêl tribiwnlys cafodd ei ddwyn yn erbyn y Comisiynydd Gwybodaeth gan Mr Powell yn 2015.  Dan arweiniad y Barnwr Robin Callender Smith, daeth panel y tribiwnlys yn unfrydol i'r penderfyniad i ganiatáu apêl Mr Powell wedi iddi ddod i'r amlwg bod penderfyniad y Comisiynydd Gwybodaeth wedi ei wneud yn seiliedig ar honiadau anghywir gan Gyngor Wrecsam, a oedd wedi gwadu bod ym meddiant cofnodion lleoliadau ei arwyddion ‘Ildiwch’.  

Cafodd Cyngor Wrecsam ei orfodi gan y barnwr i ymuno fel parti ychwanegol i'r achos cyfreithiol ac yna gwnaeth yr awdurdod newid y stori roedd wedi cadw iddi dros y pedwar mis ar ddeg blaenorol.  Cofnododd y Barnwr Smith ym mhenderfyniad y tribiwnlys: “Mae’r Cyngor wedi cyfaddef ei fod mewn gwirionedd yn dal y wybodaeth hon ac mai amryfusedd pur oedd awgrymu nad oedd yn ei dal.

Yn y wasg:

Wrecsam Leader

Daily Post

Wrexham.com