Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin, Vernon Morgan wrth ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir ddoe, Llun 13eg, y bydd 'Papur Esboniadol' yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd Awst yn gosod allan rhesymau'r Cyngor dros eu Strategaeth Addysg ddadleuol. Bydd croeso i sylwadau'r cyhoedd mewn ymateb i'r papur hwn.
Mewn ymateb penderfynodd Cymdeithas yr Iaith i adweithio'n gadarnhaol gan ohirio unrhyw weithredu pellach ar y pwnc hwn. Dywedodd llefarydd y Gymdeithas Aled Davies:"Rydym yn amau y gallai bwriad y Cyngor fod i geisio gwerthu yn well eu syniadau eu hunain dros gau ysgolion pentrefol i'r cyhoedd gwrthwynebus. Fodd bynnag, rhaid i ni eu cymryd ar eu gair a byddwn ni yn ceisio trawsffurfio'r broses i fod y strategaeth ymgynghori eang a chynhwysol ledled y sir ar holl dyfodol Addysg, fel y gofynsom amdano.""Byddwn yn gwneud hyn trwy gysylltu gyda Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o drefnu cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ym mis Medi i drafod papur y Cyngor. Byddwn yn disgwyl i swyddogion Addysg y Cyngor i fod yn bresennol yn y cyfarfodydd i wrando ar farn y bobl.""Dywedasant wrthym yn y cyfarfod ddoe fod yr holl opsiynnau yn dal yn agored, ond mae gorfodaeth gyfreithiol arnynt i ddweud hyn neu byddai pob ymgynghori yn annilys."Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar BBC Wales South West