Datblygiad Tai Bodelwyddan - newidiadau i'r Bil Cynllunio yn hanfodol

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod penderfyniad Cyngor Sir Dinbych i ganiatáu cais cynllunio i adeiladu datblygiad o 1,700 o dai ym Modelwyddan yn dangos ei bod yn hollbwysig sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i'r Bil Cynllunio. 

Dywedodd Aled Powell, Cadeirydd Rhanbarth Clwyd Cymdeithas yr Iaith:

Yn anffodus dyma oedd penllanw 5 mlynedd o ymgyrchu ac o gyd-weithio rhwng y Gymdeithas a grŵp Achub Bodelwyddan, ac rydym, yn naturiol ddigon wedi ein tristau yn fawr gan y penderfyniad hwn. Daeth hi'n amlwg iawn i mi, yn ystod y cyfarfod, bod gennym yng Nghymru, system gynllunio sydd nid yn unig yn milwrio yn erbyn ein cymunedau, ond hefyd yn erbyn llais democrataidd ein cymunedau. Wedi'r holl lythyru yn erbyn y cynllun, wedi refferendwm cymunedol, yr holl brotestio a lobio, mae'n amlwg iawn heddiw, bod llais ein cymunedau yn golygu dim yn y drefn sydd ohoni”

Ychwanegodd: 

Dyma ddangos yn glir bod rhaid cael trefn gynllunio newydd yng Nghymru, sydd yn gosod yr angen am dai yn lleol yn ganolog, a gosod y Gymraeg yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Mae'r hyn sydd wedi digwydd ym Modelwyddan yn enghraifft berffaith i Lywodraeth Cymru o sut mae'r system gynllunio yn gweithio yn erbyn cymunedau Cymru. Dyna paham felly bod rhaid i'r Bil Cynllunio newydd osod y Gymraeg a llais ein cymunedau yn ganolog, fel arall, mi fydd Cymru o Fôn i Fynwy yn frith o enghreifftiau tebyg i Fodelwyddan yn ystod y blynyddoedd nesaf.”