Dathlu 50 mlynedd o Brotest a Roc Cymraeg

disgo-mici-plwm.jpgMae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni. Yn ôl yn y 60au, cafodd "DJ Plummy" ei ysbrydoli gan Gymdeithas yr Iaith i gael gwared â'i gasgliad o recordiau Saesneg i lansio'r Disco Cymraeg cyntaf, a newidiodd ei enw i "Mici Plwm".
Recordiad o Mici Plwm ar raglen Dafydd a Caryl Radio Cymru - 10/06/11Defnyddiwch y teclyn uchod i chwarae'r ffeil sain, neu de-gliciwch yma ac arbed y ffeil ar eich cyfrifiadur.

Ymwelodd Disco Teithiol Mici Plwm â chlybiau a neuaddau pentref trwy Gymru am ugain mlynedd gan rannu llwyfan gyda bandiau fel Edward H. Dafis. Cymerodd Mici ei hun ran ym ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, a derbyniodd ddedfryd o 12 mis o garchar gohiriedig am ddringo Mast Trosglwyddo Llanddona yn rhan o'r ymgyrch dros Sianel Deledu Gymraeg. Dros y 3 degawd diwethaf, mae Mici wedi cael gyrfa amlwg mewn adloniant, teledu a'r celfyddydau ac mae wedi sefydlu ei Gwmni Cysylltiadau Cyhoeddus www.miciplwm.co.ukNos Fercher y 3ydd o Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gig yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam i gyhoeddi 2012 yn Flwyddyn Dathlu Hanner Canmlwyddiant Canu Roc a Phrotestio dros y Gymraeg ers sefydlu Cymdeithas yr iaith ym 1962. Dywedodd trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd, Osian Jones,"Mae Mici Plwm wedi bod yno ers y cychwyn ac wedi gweld y cyfan. Mae'n wych y bydd yn cyflwyno'r gig 50mlwyddiant yn y Steddfod gydag ymddangosiadau byw gan Heather Jones, band mawr yr 80au Maffia Mr Huws, band y 90au Ian Rush, yn ogystal â bandiau cyfoes Gai Toms a Jen Jeniro."

Mae Mici Plwm am roi'r neges hon i rai sy'n dod i'r Steddfod eleni:"Prynwch docyn a dewch ar fwrdd trên y Chwyldro ar gyfer profiad unigryw o 50 mlynedd o ganu roc a phrotest Cymraeg mewn cân a ffilm. Bydd y cyfan yno ar y noson - ffilm o brotest Pont Trefechan, dringo'r mastiau, y carchariadau a'r gerddoriaeth orau trwy'r degawdau. Dewch i fwynhau'r gerddoriaeth a'r delweddau ar y sgrîn mawr. Dyma Ddisco Teithiol Mici Plwm ar ei orau - profiad na fyddwch fyth yn ei anghofio. Fydd y noson hon ddim yn cael ei ailadrodd, a disgwyliaf y bydd y tocynnau'n mynd yn sydyn."

  • Mae tocynnau'r noson ar werth am £9 yr un arlein o www.cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meinrion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.
  • Manylion llawn: Nos Fercher, 3 Awst TRÊN Y CHWYLDRO: TRWY'R DEGAWDAU MICI PLWM YN CYFLWYNO 50 MLYNEDD O GANU ROC A BRWYDRO DROS Y GYMRAEG MEWN CÂN A FFILM GYDA: MAFFIA MR HUWS, HEATHER JONES, GAI TOMS A'R BAND, JEN JENIRO, IAN RUSH - 8pm - 2.30am, £9, Clwb Gorsaf Ganolog, Wrecsam

Manylion llawn y gigs yma - cymdeithas.org/steddfod