Bydd Steffan Cravos cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngogledd Cymru yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon yfory (dydd Mercher Gorffennaf 16) am 9 o'r gloch y bore wedi eu cyhuddo o achosi difrod troseddol i siopau Superdrug a Boots yn Llangefni, Bangor a Chaernarfon ar Fehefin 9. Derbyniodd dwy ferch ysgol oedd gyda hwy ar y noson rybudd gan yr heddlu. Ar y noson fe atafaelwyd car a ffonau symudol oedd yn perthyn i'r diffinyddion gan yr heddlu.
Cyn mynd i'r Llys dywedodd Osian Jones Trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd"Bu i ni weithredu yn erbyn Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith newydd. Yr ydym sicrhau fod cwmniau preifat mawrion fel Boots a Sperdrug yn atebol i Ddeddf Iaith ac am eu gweld yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg. O'r achos llys hwn ymlaen fe fyddwn fel Cymdeithas yn ymgyrchu ac yn lobio yn galed dros Ddeddf iaith ac yn gobeithio y bydd llywodraeth y Cynulliad yn cyflwyno Mesur Iaith yn yr Hydref yn unol a'i haddewid yn y ddogfen Cymru'n Un.”