Fe fydd Debbie (ar ran y cwmni Debenhams) yn dod i Gaerfyrddin yfory, dydd Mercher 17eg o Chwefror, cyn agoriad swyddogol ei siop fawr crand yn y pasg. Bydd Debbie (sydd yn cael ei chwarae gan Llinos Roberts, aelod o Gymdeithas yr Iaith) yn annerch pobl Caerfyrddin am 2pm tu fas i'r farchnad yng Nghaerfyrddin, cyn mynd ymlaen i ddosbarthu taflenni yng nghanol y dref yn gwahodd pobl i'r siop ac yna yn mynd ymlaen a llythyr caru at Mark James prif weithredwr Cyngor Sir Gar.Yn ei haraith fe fydd Debbie yn dweud:"We were told at headquarters that you had your own cute little language called Welsh - I didn't know that it was so widely spoken.. very old apparently? ohh, I can hear it everywhere around me here. It's popular innit? Cymraeg it's called innit? Apparently, it's widely spoken in Carmarthenshire-more so than in any other county in Wales, but there we go - sooo many languages in this big world of ours. We do try to be sensitive to these little differences at Debenhams - we've got some ethical policies or whatever, but we're so lucky we've got the English language that everyone can understand - even you - yeah, and that's why were throwing in a little smattering of Welsh into our fab new store - just to keep you Welshies happy!. What? did I hear someone say that Welsh should have equal status to English? hey! You're having me on aint you? What? Welsh signs everywhere? Oh no my darlings, that wouldn?t be possible-it would cost far,far too much! We only made 95.1 million pounds in profit last year wiv it being the recession and all, oh we are struggling babes!"
Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Sir Gar Cymdeithas yr Iaith:"Mae Debbie yn ei haraith yn dangos gwir agwedd y cwmniau mawrion tuag at y Gymraeg. Mae aelodau'r Gymdeithas yn targedu Debenhams heddiw gan ddweud wrthynt nad yw'r agwedd yma yn ddigon da ac ei fod yn ddyletswydd arnynt i gynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog i bobl Caerfyrddin. Fe fyddai hyn yn golygu nid yn unig fod ychydig o'r posteri parhaol yn ddwyieithog ond fod yr holl bosteri boed yn barhaol neu'n dros dro yn ddwyieithog, bod y taflenni hyrwyddo yn ddwyieithog a'u holl gwaith marchnata, fod yna hyfforddiant i'r staff di-Gymraeg i ddysgu'r iaith, bod y cyhoeddiadau uchelseinydd yn ddwyieithog a bod yna adran ar wefan y cwmni yn Gymraeg. Rydym yn rhoi y cyfle nawr i Debenhams a'r cwmniau mawrion eraill yma, sydd yn dod i'r gnaolfan siopau newydd yng Nghaerfyrddin, i sicrhau eu bod yn parchu pobl y sir a nid yn unig y 50% sydd yn siarad yr iaith ond i'r 50% di-Gymraeg sydd ddim yn derbyn y cyfleoedd i ddysgu'r iaith."