Am 9.45am bore yma (Gwener, 2/12/05), yn Llys Ynadon Caerdydd, cynhelir y trydydd mewn cyfres o achosion llys yn erbyn aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Deillia’r achosion hyn o’r ymgyrch weithredol dros Ddeddf Iaith Newydd a fu’n rhedeg bron yn wythnosol ers dechrau mis Hydref. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwyd pymtheg aelod o Gymdeithas yr Iaith yn cael eu harestio am beintio’r slogan ‘Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ar flaen pencadlys Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.CefnogaethYn y llys bore yma bydd Hywel Griffiths, 22 oed o Gaerfyrddin a Huw Lewis, 25 oed o Aberystwyth. Mae’r ddau’n wynebu cyhuddiadau o ddifrod troseddol. Yn ymuno gyda nhw i ddangos cefnogaeth i’r ymgyrch dros Deddf Iaith Newydd bydd Leanne Wood, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ranbarth Canol de Cymru.Daw’r achos hwn ddiwrnod wedi i Osian Rhys o Bontypridd a Dafydd Morgan Lewis o Aberystwyth, gael eu gorchymyn i dalu iawndal a dirwyon oedd yn cyrraedd cyfanswm o fil o bunnoedd yr un.Meddai Catrin Dafydd, arweinydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith:“Dros yr wythnosau diwethaf, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfres o weithredoedd uniongyrchol er mwyn hoelio sylw Llywodraeth y Cynulliad ar yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Mae pob un o’r sawl sydd wedi gweithredu wedi cymryd cyfrifoldeb llawn am eu gweithredoedd, gan ildio i’r heddlu, yn unol ag egwyddorion di-drais Cymdeithas yr Iaith.“Mae mawr angen trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r hen ddeddf iaith ac nid yw ei grymoedd yn gwneud digon i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg mewn byd sy’n newid yn gyflym. Ymhellach, mae’r penderfyniad diweddar i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dileu rhan helaeth o gynnwys yr hen ddeddf. Ond er gwaethaf cyd-destun o’r fath, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwrthod trafod yr angen am ddeddfwriaeth bellach. Ar sail ymateb o’r fath, yr aethpwyd ati i weithredu yn y gobaith o hybu trafodaeth gyhoeddus ar y mater pwysig hwn.”Yr Ymgyrchu’n ParhauBydd yr ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd yn parhau dydd Sadwrn (3/12/05), wrth i Gymdeithas yr Iaith gynnal rali yng Nghaerfyrddin. Bydd y rali yn cychwyn am 12am ac yn cael ei gynnal ar sgwâr y dref. Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan yn y rali bydd Adam Price AS, Rhodri Glyn Thomas AC, Cefin Campbell a Catrin Dafydd.