Deiseb Swydd Cyfarwyddwr Addysg Sir Gâr

Martin Morris Mae'r ddeiseb ganlynol ar gael yn awr i'w lawrlwytho o wefan y Gymdeithas. Pwyswch yma i lawrlwytho'r ffeil (pdf) 76KBRydym ni sydd wedi arwyddo isod yn:1) gofyn i’r Arweinydd ac i Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin i ohirio’r broses o asesu a chyfweld yr ymgeisyddion ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y sir sydd yn digwydd ddydd Mawrth a dydd Mercher Ionawr 18fed a’r 19eg 2005.

2) Gofynnwn i’r Cyngor i ail gychwyn y broses o hysbysebu’r swydd a fydd yn cynnwys yr angen am sgiliau a chymwysterau ieithyddol hanfodol yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o’r swydd ddisgrifiad.Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhuddiad a wnaed gan y Cyng Martin Morris (dirprwy arweinydd y Cyngor mewn Datganiad i'r Wasg heddiw) fod y Gymdeithas a chyrff eraill yn ei gwneud yn anos i'r Cyngor gael y person gorau i'r swydd ar gyfer gweithredu eu cynlluniau uchelgeisiol mewn addysg trwy ddweud mai polisiau gwrth-Gymreig y Cyngor ei hun sy'n peri i Gymry Cymraeg feddwl ddwywaith cyn ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Addysg.Dywedodd Ffred Ffransis (Llefarydd Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg):"Mae eu cynlluniau uchelgeisiol honedig mewn addysg yn golygu cau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg a distrywio'r cymunedau hyn. Mae hyn yn amlwg yn gwneud i ymgeiswyr Cymraeg galluog ail-feddwl cyn ymgeisio am swydd Cyfarwyddwr Addysg. Anodd iawn yw cael hyd i Ddienyddwyr cyhoeddus y dyddiau hyn.""Dyw hi ddim yn wir chwaith fod rhwyg rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn y Cyngor - mae eu gweinyddiaeth bron yn gyfangwbl Saesneg, a disgwylir i'r Cyfarwyddwr Addysg weinyddu'n Saesneg.""Ymddengys fod gan arweinwyr y Cyngor ymdeimlad dwfn o israddoldeb gan gredu fod yn rhaid cael hyd i'r 'person gorau am y swydd' o du allan. Dyma sarhad ar genedl sydd mor falch o'i haddysg."Stori 1 oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori 2 oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori 3 oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Western Mail