"DIGON YW DIGON" - Neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at bob cynghorydd yng Ngheredigion o flaen cyfarfod ddydd Mercher a fydd yn penderfynu tynged nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir. Mae'r Gymdeithas yn galw ar gynghorwyr i arbed ysgolion Llanafan a Llanddewi Brefi yn ogystal a Dihewyd, ac yn gofyn i gynghorwyr etholedig ffrwyno awydd swyddogion i fynnu eu ffordd eu hunain ar draul cymunedau lleol.

Yn y llythyr, dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg Ffred Ffransis:
"Galwn ar gynghorwyr Ceredigion i ddweud 'Digon yw Digon' wrth y swyddogion a gwrthod cau ysgolion Llanafan a Llanddewi Brefi. Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, mae Awdurdod Addysg yn gorfod ystyried 'gyda meddwl agored' pob gwrthwynebiad i Rybudd i gau ysgol. Golygir felly nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i gymryd i gau'r ysgolion hyn tan gyfarfod Cyngor Ceredigion Ddydd Mercher nesaf pryd y byddwch chi'n ystyried y gwrthwynebiadau. Os byddwch yn penderfynu cau unrhyw un o'r ysgolion, dim ond 3 wythnos byddai gan rieni wedyn cyn diwedd y tymor i gael lle mewn ysgol arall i'w plant. Mae'n amlwg mai tacteg y swyddogion yw ceisio argyhoeddi rhieni ymlaen llaw y bydd eu hysgol yn cau, ac felly eu hannog i geisio ysgol arall ymlaen llaw gan wneud ffars o unrhyw ymgynghori neu gyfnod statudol ar gyfer gwrthwynebiadau. Mae'n warthus fod trin rhieni, llywodraethwyr a chymunedau yn y fath fodd a dylech chi ddweud 'Digon yw Digon' wrth y swyddogion a'u cyfarwyddo i drafod yn adeiladol gyda'r llywodraethwyr sy'n dal i frwydro dros eu hysgolion".

Ychwanegodd Mr Ffransis:
"Mae canllawiau'r llywodraeth hefyd yn mynnu fod Awdurdod Lleol yn chwilio pob dull amgen cyn cynnig cau ysgol. Yn ein gwrthwynebiad, rydyn ni wedi dangos nad yw'r Awdurdod wedi chwilio opsiwn creu ffederasiwn neu ysgol aml-safle ar gyfer Llanafan/Llanfihangel/Llanilar er y gallai hwn fod yn rhatach opsiwn na gorfod adeiladu cyn hir o'r newydd mewn man canolog. Ond cred y swyddogion nad oes adnoddau ariannol gan y cymunedau i herio'r Cyngor yn gyfreithiol am beidio ag ystyried opsiynau eraill, ac felly eu bod yn gallu eu hanwybyddu. Gall gorlenwi ysgolion hyd yn oed fod yn dacteg mewn rhai mannau i geisio cymell y llywodraeth i roi cyllid ar gyfer ysgolion canolog newydd. Os bydd y Cyngor yn parhau i weithredu fel hyn, bydd dadrithiad llwyr yn ein cymunedau gwledig ar yr union adeg pryd y mae angen eu cryfhau."