Dim Esgusodion y tro yma medd Cymdeithas

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi atgoffa Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr y byddant yn trafod y datblygiad tai arfaethedig yn Waungilwen, Drefach Felindre gyda thudalen wag. Apeliodd y Gymdeithas at y cyfarfod pwyllgor a gynhelir ddydd Iau Medi 27ain am 10.30 yn swyddfeydd y Cyngor, i sicrhau fod y broses gynllunio yn cynnal cymunedau hyfyw yn hytrach na chael ei defnyddio fel trwydded i argraffu arian ar gyfer datblygwyr.

Dywedodd Angharad Clwyd, swyddog maes Cymdeithas yr Iaith :"Yn aml teimla Cynghorwyr a swyddogion cynllunio fod eu dwylo wedi'u clymu gan ganiatad cynllunio a ganiatawyd yn flaenorol a gan eu cynlluniau eu hunain ar draws y sir. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, mae'r pwyllgor cynllunio yn cychwyn gyda thudalen wag gan eu bod yn ystyried cais am ganiatad cynllunio amlinellol sef y cam cyntaf yn y broses. Deallwn hefyd fod y datblygiad tai arfaethedig ymhell dros yr hyn a ganiateir gan Cynllun Datblygu Unedol y sir ei hun. Mae gwrthwynebiad unol yn y gymuned leol a disgwyliwn i'r Cyngor i sefyll gyda'r gymuned."