Dim lle i Elwa yn ein Hysgolion Uwchradd!

Logo Elwa Mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Gwener 04/06/04), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan na ddylai y cwango addysg ELWA ymyrryd gyda'n hysgolion uwchradd trwy eu hamddifadu o'r chweched dosbarth. Bydd y brotest yma yn cychwyn wrth uned Cymdeithas yr Iaith am 1 o'r gloch.

Baner Dim lle i Elwa Baner Dim lle i Elwa Logo ElwaBydd mudiadau addysgol eraill yn ymuno gyda’r Gymdeithas yn yr alwad hon dros gadw y 6ed dosbarth yn ein hysgolion uwchradd ac amddiffyn addysg gymunedol.Ymysg y siaradwyr fydd yn cymryd rhan yn y cyfarfod mae Dewi Jones (Prifathro Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle) a Dewi Gwyn (Cynrychiolydd UCAC yng Ngwynedd).Bydd, Lois Adams, myfyriwr chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Nantlle yn siarad hefyd.Dywedodd Huw Lewis cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod cyfraniad y 6ed dosbarth i'n hysgolion a'n cymunedau. Yn sicr nid ydym am weld cwango anatebol fel ELWA ddylai benderfynu dyfodol ein chweched dosbarth.""Rhaid i ni amddiffyn ein 6ed dosbarth hyd nes bod trefn ddemocrataidd yn siroedd Cymru all benderfynu ar unrhyw ail-drefnu."Stori oddi ar wefan y Western Mail