
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r newyddion bod Neuadd Pantycelyn yn cael ei chadw ar agor.
Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch i fyfyrwyr Pantycelyn am ennill buddugoliaeth a fydd yn rhoi hwb i bawb sy'n brwydro dros ddyfodol eu cymunedau Cymraeg. Dyfodol yr iaith yw dyfodol ein cymunedau - yn eu holl amrywiaeth."
Mwy o wybodaeth:
- Achubwyd Pantycelyn (Y Cymro)
- Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth i barhau (BBC Cymru)
- Pantycelyn i aros ar agor (Golwg360)