Dirwy i ddynes o Geredigion am Wrthod Talu Trwydded Deledu

Mae Heledd Gwyndaf o Dalgarreg, Ceredigion wedi cael ei dedfrydu i dalu £170 wedi iddi ymddangos gerbron llys yr ynadon yn Aberystwyth heddiw (ddydd Mercher y 10fed o Hydref) am wrthod talu ei thrwydded deledu.  

Mae hi’n un o dros saith deg o bobol sydd yn rhan o ymgyrch gwrthod talu trwydded deledu er mwyn galw i ddatganoli grymoedd darlledu o Loegr i Gymru. Dyma oedd yr achos llys cyntaf fel rhan o'r ymgyrch. 

Y llynedd cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu syniadau nhw ar sut y dylid fynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu, mewn dogfen o’r enw Datganoli Darlledu i Gymru. Yn ôl y ddogfen honno gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli’r ffi drwydded a threth ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook. 

Yn siarad wedi’r achos llys, dywedodd Heledd Gwyndaf: “Hoffwn  i dalu deyrnged i'r holl bobl sy'n cefnogi'r ymgyrch yma, yn enwedig y y bobl sy'n rhan o'r boicot. Mae’r frwydr hon yn frwydr dros briod iaith Cymru, dros ddemocratiaeth pobol Cymru a thros ein rhyddid ni fel cenedl. Er yr holl ddatblygiadau yn y cyfryngau ac yn y maes digidol ers sefydlu S4C, dim ond un sianel deledu gyflawn Gymraeg sydd gyda ni. Bach iawn o ddeunydd ar lein ac ar lwyfannau eraill sydd i ga’l yn Gymraeg.  

Yn ogystal â hyn mae’r wasg Seisnig yn fygythiad enfawr i’n democratiaeth ni wrth fethu cynnal trafodaeth Gymreig a chan gamarwain pobol drwy gyfeirio at system addysg neu wasanaeth iechyd genedlaethol pan mai gwasanaethau Lloegr yn unig sydd dan sylw – dydyn ni yma yng Nghymru heb gliw pa gyfrifoldeb sydd yn gorwedd ymhle. Shwt yn y byd mai democratiaeth yw hyn?"  

Wrth gyfeirio at y papur polisi 'Datganoli Darlledu i Gymru' sydd yn amcangyfrif y gellid cynnal tair gorsaf radio a thair sianel deledu Gymraeg drwy ddatganoli darlledu i Gymru, gyda chyllid o £250 miliwn y flwyddyn ar gyfer cynnwys Cymraeg a Chymreig, ychwanegodd: “Mae gan Gymdeithas yr Iaith gynnig arall i bobl Cymru – mwy o ddarlledwyr Cymraeg a Chymreig a fyddai’n arfogi pobol i greu deunydd yn lleol a rhoi gwir werth i ddarlledu lleol; creu deunydd dirifedi ar lein i bobol o bob oedran yn Gymraeg a'i ariannu drwy ardoll ar gwmnïau sydd yn gwneud arian mawr o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.  

Y cam cyntaf tuag at hyn fyddai datganoli rheoleiddio, fel nad Ofcom sydd yn dweud wrthym beth ddylai fod yn bwysig i ni fel cenedl, gan nad oes cliw ganddyn nhw. Dydyn nhw ddim yn gwasanaethu pobol Cymru, nac hyd yn oed esgus gwneud hynny."