Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Gyngor Ynys Môn a Llywodraeth Cymru i ail-ystyried eu strategaethau economaidd yn sgil y newyddion diweddaraf am Wylfa-B.
Y llynedd, lansiodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen economaidd ‘Gwaith i Adfywio Iaith’ oedd yn amlinellu pecyn o argymhellion a fyddai’n cryfhau’r economi yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys sefydlu banciau lleol yn defnyddio asedau pensiwn cynghorau i fuddsoddi yn yr economi leol; codi treth ar dwristiaeth i helpu i ariannu mynediad cyflym i'r we; a sefydlu Cwmni Ynni Cenedlaethol.
Meddai Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith:
"Mae’n rhaid i'r cyngor a’r Llywodraeth fod yn gall nawr, ac ail-ystyried eu strategaeth economaidd. Maen nhw wedi bod yn rhoi’r holl wyau yn yr un fasged am lawer rhy hir. Rydyn ni wedi dadlau ers tro bod gwthio am atomfa newydd, nid yn unig yn beryg i’r amgylchedd ac i'r iaith, ond hefyd yn hen dechnoleg sy’n anfforddiadwy. Dylen nhw fod wedi rhagweld hyn yn dod yn sgil trychineb Fukushima. Mae angen canolbwyntio nawr ar gynigion ymarferol a fyddai o fudd i'r economi, i'r amgylchedd ac i'r iaith, fel sefydlu cwmni ynni cenedlaethol a buddsoddi mewn technolegau ynni adnewyddadwy a glân.”
Ychwanegodd:
"Dyw Cymru ddim yn gallu fforddio peryglu ein bywydau, ein hamgylchedd a chyflwr y Gymraeg er budd prosiect sy'n anfforddiadwy. Yn lle hynny, fe ddylen ni fod yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy go iawn sy'n llesol i’r economi leol, yr iaith a’r blaned."
“Yn dilyn y newyddion, bydd rhaid i gyngor Gwynedd ac Ynys Môn ail-ymweld â’r Cynllun Datblygu Lleol yn ogystal. Roedd canran sylweddol o’r 8,000 o dai newydd yn seiliedig ar bobol yn symud i mewn yn sgil yr atomfa, does dim angen y tai hyn bellach.”