DJ Andy Votel yn perfformio i Gymdeithas yr Iaith!

andy_votel.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch o gyhoeddi y bydd y DJ enwog o Fanceinion Andy Votel yn perfformio yn eu gig yn Amser, Bangor ar nos Fercher yr Eisteddfod eleni. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Lansiwyd ei CD newydd ‘Welsh Rare Beat’ nos Sadwrn diwethaf a dros yr wythnosau diwethaf mae wedi bod ar daith gyda Gruff Rhys, prif leisydd y Super Furry Animals a’r artist fydd yn cloi’r noson sy’n argoeli i fod yn uchafbwynt yr wythnos yn Eryri eleni. Meddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:‘Rydan ni’n falch iawn fod Andy Votel yn awyddus i barhau ei gysylltiad gyda Gruff Rhys ar gyfer y gig y Gymdeithas yng nghlwb nos Amser nos Fercher yr Eisteddfod. Mae’n un o DJs amlycaf Prydain a bydd ei ymddangosiad yn fonws ychwanegol i fynychwyr y gig hon oedd yn argoeli i fod yn un wych beth bynnag!’