Dros 5000 o bobl yn gorfodi dadl yn y Senedd ar ysgolion gwledig

Cyflwynodd rhieni ysgol wledig yn Ynys Môn ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith ar risiau'r senedd yng Nghaerdydd ddeiseb am ddyfodol ysgolion gwledig Cymru.
 
Yn 2017, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ddrafft o gôd newydd yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig. Disgwylir i'r côd ddod i rym cyn diwedd eleni, ac mae'r gweinidog wedi gofyn i Awdurdodau Lleol lynu at ysbryd y côd newydd yn y cyfamser. Ond mae rhieni yn Ysgol Bodffordd yn cwyno fod Cyngor Ynys Môn yn ceisio cau eu hysgol yn gwbl groes i'r côd newydd.
 
Mae dros 5000 o bobl wedi arwyddo deiseb sy'n galw ar y llywodraeth "i gymryd camau i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn gweithredu'r côd newydd". Mae hyn yn golygu y bydd dadl yn siambr y Senedd ar y ddeiseb a bydd yn ofynnol i'r Gweinidog ymateb i ddweud sut y bydd y llywodraeth yn gweithredu. Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno i AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth gan Llinos Thomas Roberts, ysgrifennydd Cymdeithas Rhieni/Athrawon Ysgol Bodffordd.
 

Yn ystod y cyflwyniad, a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd Ffred Ffransis ar ran y Gymdeithas "Os gall y cyngor lleol gau Ysgol boblogaidd, orlawn fel Bodffordd sydd yn rhif un ar restr y llywodraeth o ysgolion gwledig Cymru, yna does dim un ysgol wledig yn ddiogel a gall fod cyflafan yn ein cymunedau gwledig Cymraeg. Rydyn ni fel Cymdeithas wedi canmol y Gweinidog Addysg am roi gobaith newydd i ysgolion gwledig, ond mae penderfyniad Cyngor Môn i anwybyddu'r côd yn llwyr yn dwyn anfri ar y ddemocratiaeth Gymreig ifanc a gynrychiolir gan y senedd hon. Maen nhw wedi anwybyddu'r broses gywir o ran ymgynghori, wedi anwybyddu barn rhieni, ac wedi gwrthod hyd yn oed ystyried yr opsiynau eraill fel y mae'r gyfraith yn gofyn ganddynt. Mae'n her uniongyrchol i'r Gweinidog ac mae angen iddi ymateb neu bydd colli pob ffydd mewn prosesau democrataidd."

Geiriad y ddeisieb:
Galwn ar y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau'r cod trefniadaeth ysgolion presennol a'r cod newydd (pan ddaw i rym) gan gynnwys gweithredu'n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig. Derbyniwn nad yw hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau ysgol Bodffordd yn dangos bod rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r cod newydd (y maent i fod i weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn.

Mwy o luniau yma