Cafodd deiseb, sy'n galw am agor deg ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd nesa, ei chyflwyno i Arweinydd Cyngor Caerdydd heddiw.
Daw cyflwyno'r ddeiseb, a lofnodwyd gan dros ddwy fil o bobl, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth iaith genedlaethol sy'n anelu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Meddai'r ddeiseb:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, gyda chymorth awdurdodau lleol megis Cyngor Caerdydd.
"Galwn felly, yn wyneb yr ymrwymiad hwn a'r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg, ar Gyngor Caerdydd i agor 10 ysgol gynradd Gymraeg newydd ledled y brifddinas erbyn 2022."
Cyfarfu aelodau o Gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith ag Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, heddiw i drafod y ddeiseb. Meddai Owain Rhys Lewis, Cadeirydd Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith, a gyflwynodd y ddeiseb:
"Mae'n destun balchder fod cymaint o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb. O fynd ar hyd a lled y brifddinas i gasglu llofnodion, mae aelodau'r Gymdeithas wedi clywed yn glir bod cefnogaeth gadarn i'n galwad, a hynny gan bobl o bob math o gefndir. Dyhead clir pobl y ddinas yw clywed y Gymraeg fel iaith ar dafodau pob un disgybl.
"Yn wir, mae twf addysg Gymraeg yn y brifddinas yn gwbl greiddiol i amcan y Blaid Lafur o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif. Mae'r brifddinas, gan ei bod mor boblog ac yn tyfu, yn allweddol yn hynny o beth. Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai ar y gweill yma, sy'n golygu bod nifer fawr o ysgolion yn mynd i agor, y cwestiwn i'r cyngor yw pa iaith fydd cyfrwng yr addysg?
"Roedd yn destun pryder darllen yr wythnos diwethaf mai dim ond un cyfeiriad at y Gymraeg sydd yn nogfen weledigaeth y Cyngor, 'Uchelgais Prifddinas', a dim un gair am yr iaith yn yr adran addysg. Ydy'r Gymraeg wir yn flaenoriaeth i arweinyddiaeth newydd y cyngor? "