Bydd ymgyrchydd iaith yn cael ei rhyddhau o garchar yn Lerpwl heddiw (Dydd Mawrth, Rhagfyr 8) ar ôl iddo brotestio yn erbyn diffyg gwasanaethau Cymraeg siopau mawrion y stryd fawr yng ngogledd Cymru.Cyn iddo adael y carchar, fe rybuddiodd Mr Jones y 'gallai'r degawd nesaf gweld dinistriad y Gymraeg fel iaith gymunedol' os nad oedd newidiadau mawr yn y gyfraith i 'adael yr iaith fyw'. Disgwylir y bydd torf o gefnogwyr yng Ngorsaf Trên Bangor i'w groesawu yn ôl i'r wlad.Carcharwyd Osian Jones, 32 mlwydd oed o Ddyffryn Nantlle am 28 diwrnod ar ddiwedd mis Tachwedd - y ddedfryd hiraf i actifydd Cymraeg ers 1991. Fe beintiodd e sloganau ar siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Bangor a Llangefni.
Ers y ddedfryd, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dangos cefnogaeth i safiad Osian gyda gweithgareddau ar draws y wlad - bu pum myfyriwr prifysgol Aberystwyth yn ymprydio am 24 awr a chynhaliwyd nifer o bicedau a stondinau stryd yn sir Gaerfyrddin, Caerdydd a Bangor hefyd.Wrth rybuddio'r cyhoedd am ddyfodol yr iaith, dywedodd Osian Jones:"Dwi'n gobeithio y bydd fy ngweithred yn ysgogi cyfnod cyffrous newydd yn hanes y Gymdeithas. Mae dyfodol y Gymraeg yn y fantol oherwydd bod gwleidyddion yn gwrthod cymryd y Gymraeg o ddifri. Er gwaethaf cefnogaeth frwd y cyhoedd i'r Gymraeg, gallai'r ddegawd nesaf weld dinistriad y Gymraeg fel iaith gymunedol, oherwydd cyfuniad difaterwch a methiant gwleidyddion, cyfalafwyr, a'r sefydliad Cymraeg."Cyn iddo gael ei rhyddhau, fe ddywedodd yr ymgyrchydd Osian Jones mewn llythyrau o'r carchar:"Mae'r sefyllfa yn y carchar yn gwneud i berson feddwl mai carcharorion gwleidyddol ydy pawb yma yn y bôn gan mai annhegwch cymdeithasol sydd wrth wraidd pob drws caeedig yn y lle ma. Roeddwn i'n lwcus i gael cymaint o gefnogaeth tra ro'n i tu fewn. Dwi'n ddiolchgar iawn i bawb wnaeth ysgrifennu ata i - ces i gannoedd o gardiau."Ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Machreth:"Fel cymdeithas, yr unig beth ry'n ni'n gofyn i'r cwmnïau mawr ei wneud yw gadael i'r iaith Gymraeg fyw. Mae'r mwyafrif llethol o'r siopau ar y stryd fawr yn cynnig gwasanaeth arwynebol ar y gorau, gyda rhai arwyddion tocenistaidd yn unig. Dydy hynny ddim digon da. Mae angen i'r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn y sector breifat."