"Dyma ni eto" yng Ngheredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo swyddogion addysg Ceredigion o ymbaratoi ar gyfer ymarferiad ymgynghori cyhoeddus arwynebol ynglŷn â dyfodol ysgolion pentrefol Cymraeg.

Y tro hwn, dyfodol ysgolion Dyffryn Aaeron a'r ardal sy'n destun trafod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy'n Dysgu ddydd Llun.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r swyddogion yn cymeryd arnynt eu bod am ystyried y 4 opsiwn sydd yn adroddiad Adolygu'r Ddarpariaeth Addysg yn Ardal Aberaeron. Mae'n amlwg nad ydyn nhw am ystyried y 2 opsiwn cyntaf - sef caniatau parhad y drefn bresennol nac ymfodloni ar gau un ysgol yn unig - ac mae'n amlwg nad oes ganddynt gyllid i weithredu'r 4ydd opsiwn, sef adeilad mawr newydd. Pam felly nad ydyn nhw'n dweud yn onest eu bod o blaid eu "trydydd opsiwn" sef canoli llawer o addysg gynradd y dyffryn ar safle Canolfan Addysg Broffesiynol Felinfach gan amddifadu pedair o gymunedau pentrefol o'u hysgolion?

“Mae'r Cyngor wedi gwario ar eu swyddfeydd newydd eu hunain yn eu pencadlys drudfawr yn Aberystwyth, a mwyafrif y swyddi wedi symud yno ac yn awr y mae angen i gymunedau gwledig Cymraeg dalu'r pris."

Mae'r Gymdeithas hefyd yn dweud nad yw'r ffigurau yn eu hadroddiad eu hun yn cefnogi eu hachos

  • Yn ôl amcangyfrifon y Cyngor ei hun, bydd niferoedd plant yn codi'n ystod y blynyddoedd nesaf.
  • Yr ysgol fwyaf newydd, Ysgol Bro Siôn Cwilt sydd a'r canran uchaf o lefydd gwag wedi Ysgol Cilcennin
  • O ran cyflwr adeiladau mae 3 o'r 4 ysgol a allent fod tan fygythiad yn y categori uchaf ond un

RHOWCH SICRWYDD I YSGOLION

Ychwanegodd Cen Llwyd, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Yn lle bygwth 4 ysgol gobeithiwn y bydd y Pwyllgor Craffu yn rhoi sicrwydd am eu dyfodol trwy greu Ffederasiwn Dyffryn Aeron – drwy gyfuno'r Ysgol Uwchradd gyda'r ysgolion cynradd yn y dre a'r bedair ysgol wledig yn y dyffryn. Gellid datblygu safle Felinfach fesul dipyn yn ganolfan ddiwylliannol i holl ysgolion Ceredigion gan wrthweithio tueddiadau diweddar i wneud y cwricwlwm yn gul. Gobeithiwn y bydd y Pwyllgor yn ystyried cynlluniau blaengar fel hyn, yn lle dilyn unwaith eto'r un trywydd rhagweladwy o negyddol"

Adolygiad o'r Ddarpariaeth Addysg yn Nalgylch Aberaeron (Papur A): http://www.ceredigion.gov.uk/Cymraeg/Eich-Cyngor/Cynghorwyr-a-Phwyllgorau/Cofnodion/Pages/Pwyllgor-Trosolwg-a-Chraffu-Cymunedau-sy'n-Dysgu.aspx

Yr opsiynau gerbron y pwyllgor:

Opsiwn 1: Parhau gyda'r sefyllfa bresennol o 10 ysgol yn nalgylch Aberaeron
Opsiwn 2: Cau Ysgol Cilcennin (sydd â'r nifer lleiaf o ddisgyblion a'r canran uchaf o lefydd gwag)
Opsiwn 3: Sefydlu Ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron ar safle Canolfan Addysg Broffesiynol Felinfach (ar gyfer disgyblion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felinfach)
Opsiwn 4: Adeiladu Ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron ar safle canolog (ar gyfer disgyblion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felinfach)

Y stori yn y wasg:
Ceredigion Primary Schools under Threat - Carmarthen Journal 11/05/16:
Council has Decided it Wants to close four Schools - Cambrian News 7/05/16: