Enwau amlwg i ymuno â 'barcudiaid' i gadw llygad ar Gyngor Sir

Yn arwain at gyfarfod Tynged yr Iaith yn Sir Gâr ddydd Sadwrn yma (17eg o Ionawr) mae nifer o bobl sydd wedi cytuno i gadw llygad ar waith y cyngor sir.
 
Ymysg yr unigolion sydd wedi ymrwymo i'r gwaith, fydd yn amrywio o ddarllen cofnodion a chyhoeddiadau i fynd i gyfarfodydd y Cyngor Sir mae nifer o bobl amlwg sydd yn byw ac yn gweithio'n lleol – actorion fel Rhian Morgan a Dewi Williams; y darlledwyr Heledd Cynwal a Iola Wyn, a'r Parchedig Beti Wyn James.
 
Dywedodd Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith:
 
“Mae'r pwysau mae aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi ei roi ar y cyngor hyd yn hyn wedi golygu sefydlu Gweithgor, wedi derbyn argymhellion a rhoi cynllun i'w gweithredu mewn lle. Ond mae gwaith eto i'w wneud i sicrhau fod y gwaith hyn yn mynd yn ei flaen a bod adeiladu arno er mwyn cryfhau'r Gymraeg a chymunedau Sir Gâr felly rydyn ni'n gofyn i bawb ymuno gyda ni i gadw 'llygad barcud' ar y cyngor sir drwy ddod i'r cyfarfod ddydd Sadwrn!”
 
Gall unrhyw un helpu gyda'r gwaith - cysylltwch gyda ni: bethan@cymdeithas.org neu arwyddwch yma

 

 Y stori yn y wasg:

Pobl adnabyddus am 'gadw llygad' ar Sir Gâr - Golwg360 13/01/15

Language society to hold public meeting on fate of the Wlesh language - South Wales Guardian 15/01/15