Fforwm ar Ddeddf Iaith yn galw am symud ymlaen!

Daeth croesdoriad o fudiadau a sefydliadau Cymreig i’r Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddydd Sadwrn yn Aberystwyth.

Cafwyd anerchiadau gan Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Hywel Williams Aelod Seneddol Arfon a gyflwynodd ddrafft fesur o Ddeddf Iaith Newydd a Jill Evans ASE a roddodd amlinelliad o rai newidiadau perthnasol yn Ewrop.Galwyd am gryfhau’r ddeddfdwriaeth bresennol gan sicrhau cryfhau pwerau’r ddeddf yn y sector gyhoeddus a phreifat. Nodwyd mai hwn oedd yr amser priodol i fynnu newidiadau gan y byddai angen deddf newydd i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac y dylid manteisio ar y cyfle hwnnw i gryfhau’r ddeddf iaith sydd gennym ar hyn o bryd. Nodwyd fod y drws wedi ei agor ar gyfer sicrhau deddfwriaeth newydd ond bod yn rhaid ei wthio ar agor ymhellach.Gwnaed un o’r sylwadau mwyaf arwyddocaol ar y diwrnod gan Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a ddywedodd:"Mae’n arwyddocaol mai yr hyn yr ydym yn ei wneud heddiw yw nid trafod os oes angen Deddf Iaith a’i peidio ond yn hytrach beth fyddai cynnwys deddfwriaeth newydd."Dywedodd Huw Lewis cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Y cam nesaf i ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg fydd cyfarfod gydag Alun Pugh, y gweinidog gyda chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ar Ebrill 13eg lle byddwn yn defnyddio’r pwyntiau a gododd yn y Fforwm i ddadlai'r achos dros gyflwyno Deddf Iaith Newydd."