Cynhaliwyd gêm bêl-droed ar faes yr Eisteddfod heddiw (12:30pm, Dydd Iau) fel rhan o ymgyrch dros yr hawl i chwarae yn Gymraeg.
Wrth i ddau dîm gystadlu ar stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod yn ystod protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, soniodd nifer o siaradwyr am eu profiad o'r diffyg gweithgareddau hamdden, megis gwersi nofio a dawns, sydd ar gael yn Gymraeg. Mae ymchwil Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dangos bod bron i hanner cynghorau Cymru yn methu darparu gwersi nofio yn y Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o blant yn dysgu'r iaith.
Yn gynharach yr wythnos yma, lansiodd y mudiad iaith addewid, a arwyddwyd gan sawl mudiad a phlaid wleidyddol, o blaid cynnwys hawliau clir i bobl yn y safonau iaith - rheoliadau a fydd yn gosod dyletswyddau ar gyrff a chwmnïau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Dywed y mudiad y dylai’r safonau greu hawliau megis yr hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, yr hawl i weithio yn Gymraeg a’r hawl i chwarae yn Gymraeg.
Casglodd y grŵp pwyso dystiolaeth yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni a amlygodd yr anghysondeb rhwng darpariaeth i blant mewn llefydd fel canolfannau hamdden a gweithgareddau a ariennir gan gynghorau. Cafwyd enghreifftiau o bobl yn gallu cael gwersi dawnsio Cymraeg ym Merthyr Tudful ond nid ydyn nhw ar gael yn Aberystwyth.
Yn siarad yn y rali, dywedodd Rhodri Gomer, y sylwebydd chwaraeon a chyn-chwaraewr rygbi’r Scarlets a’r Dreigiau: “... yn anffodus, fel chi’n gwybod, mae’r wlad ry’n ni’n byw ynddi’n un wahanol iawn [i’r delfryd] ... pan fyddwch chi’n mynd allan i’r sinema, neu’n mynd i’ch clwb chwaraeon lleol, bydd yr iaith fain i’w chlywed ym mhobman, a’r duedd i chi fydd dilyn y drefn a throi i’r Saesneg...Y neges yn syml yw hyn. Penderfynwch heddiw eich bod am fyw eich bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac ymfalchïwch yn hanes a diwylliant y wlad. Siaradwch yr iaith bob cyfle gewch chi, y tu fewn ond yn enwedig y tu fas i waliau’r ysgol. Arweiniwch y ffordd ymysg eich ffrindiau, a pheidiwch cywilyddio yn yr iaith sdim ots beth yw’r sefyllfa gymdeithasol.”
Hefyd, soniodd Gareth Williams, aelod o'r Gymdeithas o sir y Fflint, am y toriadau i glybiau chwarae cyfrwng Cymraeg i blant yn y sir.
Ychwanegodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae Carwyn Jones yn mynd ymlaen ac ymlaen am y ffaith ei fod yn gweld dyfodol y Gymraeg yn nwylo plant a phobl ifanc. Mae e'n honni bod rhyw resymau dirgel tu ôl i ddiffyg defnydd yr iaith ymysg pobl ifanc. Wel, does dim amheuaeth bod y diffyg yna yn rhannol oherwydd eu bod yn gweld yr iaith fel rhywbeth i'r ysgol yn unig. Yn nwylo Carwyn Jones, mae 'na gyfle euraidd i newid y sefyllfa trwy'r safonau iaith newydd; gan osod yr hawl i weithgareddau hamdden yn Gymraeg yn y rheoliadau newydd. Galle fe ddatgan ’fory ei fod e am gynnwys yr hawl yna yn y safonau. Os yw e o ddifrif am y Gymraeg dyle fe wneud hynny'n syth."
“Casglon ni gryn dipyn o dystiolaeth yn [Eisteddfod] yr Urdd eleni. Mae’n glir nad prinder staff na galw sydd wrth wraidd y problemau ond diffyg cynllunio cadarhaol o blaid y Gymraeg gan gyrff cyhoeddus a rhai mawr yn y drydedd sector. Mae’n achos clasurol o wasanaeth fyddai’n gwella’n sylweddol petai rheolau call mewn lle. Mae’r arian yna, mae pobl gyda’r sgiliau ar gael, ond dyw’r ewyllys wleidyddol heb weld golau dydd eto.”