Wrth i Banel Ymgynghorol sydd yn edrych ar y Gymraeg ar ran y Cyngor Sir Caerfyrddin gwrdd ddydd Llun nesaf, y 6ed o Hydref, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i gyfarfodydd y dyfodol fod yn rhai cyhoeddus.
Mae'r Panel Ymgynghorol wedi cymeryd gwaith Gweithgor y Gymraeg a sefydlwyd i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd y Cyngor llawn adroddiad ac argymhellion ganddynt fis Ebrill eleni.
Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin:
“Er mwyn i bawb weld yn union beth sydd yn digwydd a dilyn gwaith y cyngor dylai'r cyfarfodydd hyn fod yn rhai cyhoeddus, fel mae pwyllgorau eraill y cyngor, a dylai'r holl gofnodion fod ar y wefan. Rydyn ni wedi dweud ein bod ni am gadw llygad barcud ar waith y cyngor dros y misoedd nesaf, yn arwain at gyfarfod agored byddwn ni'n ei gynnal yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar yr 17eg o Ionawr. Yn y cyfarfod bydd cyfle i bawb yn Sir Gâr ddod i benderfynu a yw'r cyngor sir yn gweithredu argymhellion Gweithgor y Gymraeg, fel sydd yn eu cynllun gweithredu; ac a ydyn nhw'n cymeryd y mater o ddifrif.
Cyn i'r Panel Ymgynghorol gwrdd ddydd Llun bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn eu croesawu gyda modelau o farcudiaid - i'w hatgoffa ein bod yn cade llygad barcud. Mwy o fnaylion - bethan@cymdeithas.org