Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i drin ysgolion gwledig y sir gydag agwedd “cadarnhaol” yn lle eu trin fel “problemau” yn dilyn pryderon dros ddyfodol rhai ohonyn nhw.
Mewn ymateb i gais am gefnogaeth gan Lywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon, cysylltodd y mudiad gyda Dirprwy Brif Swyddog Addysg Cyngor Ceredigion, Clive Williams, i bwysleisio nad yw dull presennol y Cyngor o drin dyfodol nifer o ysgolion gwledig y sir yn gyson â'i ddyletswyddau statudol dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018).
Ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Ffred Ffransis:
"Nid yn unig fod y dull presennol o drafod yn peri gofid ac ansicrwydd i nifer o ysgolion a chymunedau Cymraeg Ceredigion, ond mae hefyd yn groes i ddyletswyddau'r Cyngor Sir o dan y Cod statudol. Mae'r Cod yn mynnu fod rhagdyb o blaid ysgolion gwledig sydd ar restr swyddogol y Llywodraeth, fel ysgol Llangwyryfon ac eraill, ac na ddylid ystyried cau ysgol wledig oni bai fod pob opsiwn arall yn methu. Dylai'r Cyngor felly fod yn trafod yn gadarnhaol gyda llywodraethwyr sut i gryfhau'r ysgolion, nid eu trin fel problemau. Dylai’r Cyngor hefyd drafod yn strategol fesul ardal, nid ceisio "pigo i ffwrdd" ysgolion unigol gwasgarog pan welant gyfle.
“Ar ben hynny, mae ‘Papur Cynnig’ ar gyfer ymgynghoriad statudol ar unrhyw newidiadau i fod i gael ei gyhoeddi ar ddiwedd yr ymdrafod i geisio canfod ffyrdd ymlaen, nid tua dechrau'r broses.”
Ychwanegodd Ffred Ffransis:
“Rydyn ni'n deall fod swyddogion Awdurdodau Lleol dan lawer o bwysau, ac felly yn ein neges, rydyn ni wedi awgrymu ffordd gadarnhaol ymlaen o drafod gyda llywodraethwyr fesul ardal. Mawr obeithiwn fod pawb am weithio at yr un nod o gynnig addysg ragorol a fydd nid yn unig yn gosod seiliau sicr i'r disgyblion, ond hefyd yn cryfhau'r cymunedau y mae'r disgyblion yn byw ynddynt."