Galw ar Gyngor Ceredigion i ddefnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol

Mae rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i symud tuag at ddefnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol, ac wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Iaith yn galw arni i annog Cyngor Ceredigion i symud at weinyddu yn Gymraeg.

Un o nodau’r Llywodraeth yn Cymraeg 2050 yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector. 

Noda’r polisi fod “rhai cyrff eisoes yn arwain y ffordd yn hyn o beth ac yn defnyddio’r Gymraeg fel iaith gweinyddu mewnol, gan gynyddu’r galw am sgiliau Cymraeg a chyfleoedd i’w defnyddio”. Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol ers 1996, tra bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo yn 2014 i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddol a Chyngor Môn wedi gwneud yr peth yn 2017.

Yr eithriad amlwg ymhlith siroedd Arfor yw Cyngor Ceredigion, nad yw’n defnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol nac wedi ymrwymo i gyrraedd y nod hwnnw.

Ar 25 Mawrth 2011 fe gytunodd arweinydd Cyngor Ceredigion ar y pryd, Ellen ap Gwynn, i’r egwyddor o wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth fewnol Cyngor Ceredigion. Ond does dim symud wedi bod ers hynny.

Petai Cyngor Ceredigion yn mabwysiadu’n ffurfiol yr egwyddor o ddefnyddio’r Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol, nid yn unig y byddai hyn yn galluogi’r siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn gweithio i’r Cyngor i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith yn eu gwaith bob dydd, ond byddai hynny hefyd yn gweithredu fel cymhelliad i eraill wella eu sgiliau Cymraeg fel y gallen nhw weithio drwy’r Gymraeg neu ddysgu’r iaith.

Mae’r Cyngor yn un o brif gyflogwyr y sir felly mae rhan allweddol ganddo wrth greu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd a thrwy hynny gyfrannu at y twf yn nifer siaradwyr Cymraeg y sir.

Heb nod clir, bydd sefyllfa’r Gymraeg o fewn y Cyngor yn aros yn statig. 

O edrych ar Adroddiadau Blynyddol Safonau’r Gymraeg y Cyngor rhwng 2018 a 2022, mae canran y staff sy’n siarad ac yn deall Cymraeg yn rhugl (ALTE lefel 5) wedi aros ar tua 33%; y ganran sy’n gallu ysgrifennu Cymraeg yn rhugl wedi aros ar 25%; a’r ganran sy’n gallu darllen Cymraeg yn rhugl wedi aros ar 29%.

Mae’r ganran sy’n gallu siarad a deall Cymraeg rhwng lefelau 3 a 5 wedi amrywio rhwng 62% a 63%. Nid yw nod niwlog o anelu at gynyddu nifer y staff sydd â sgiliau yn yr iaith neu wella sgiliau unigolion y tu allan i fframwaith sy’n symud yr holl gorff tuag at weithio drwy’r Gymraeg yn bennaf yn creu digon o ysgogiad ar gyfer cynnydd ystyrlon. 

Meddai Sian Howys ar ran rhanbarth Ceredigion a grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith: “Sylweddolwn nad dros nos y bydd y Cyngor yn gallu troi i weinyddu drwy’r Gymraeg yn bennaf, ond nid yw hynny’n rheswm dros beidio ag anelu at hynny.

“O osod nod pendant tuag at weithio’n bennaf yn Gymraeg, gellid dechrau drwy symud at wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol yn y pum gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol agos. 

“Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn gofyn am newidiadau polisi cadarn a phendant i wrthdroi dirywiad presennol yr iaith yn y sir. 

“Mae newid prif iaith weinyddiaeth fewnol Cyngor Ceredigion i’r Gymraeg yn un o’r newidiadau sy’n hanfodol wrth inni wireddu’r nod hwnnw.”