Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar arweinwyr Cyngor Gwynedd i wrando ar lais y bobl yn dilyn y cyhoeddiad heddiw o strategaeth sy'n bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.
Mae'r Gymdeithas yn cydnabod nad yw Cyngor Gwynedd yn ceisio gweithredu fait accompli fel ag a wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin gan y bydd y Pwyllgor Craffu Addysg (yn cyfarfod bnawn Iau nesaf Hyd 25) a'r Cyngor llawn (cyfarfod ar 13eg Rhagfyr) yn cael trafod y strategaeth cyn bod unrhyw ymgais i fynd ar hyd y llwybr hwn.Ond meddai llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Yr ydym yn cymryd arweinwyr y Cyngor ar eu gair y byddant yn gwrando ar lais y bobl ac yn barod i newid y cynlluniau hyn a luniwyd gan swyddogion mewn ymateb i farn y bobl. Galwn ar rieni a llywodraethwyr i fynegi eu barn am ddyfodol yr ysgolion yn glir wrth arweinwyr y Cyngor ac i ddod mewn llu i gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Addysg Ddydd Iau nesaf ac i'r Cyngor llawn ar Ragfyr 13eg a fydd yn trafod y strategaeth. Nid yw Cymdeithas yr Iaith am weld dirywiad graddol phoenus i'n hysgolion a'n cymunedau pentrefol Cymraeg, ond credwn fod angen strategaeth gadarnhaol i ddatblygu'r ysgolion.Credwn fod strategaeth y Cyngor yn methu mewn 3 maes sylfaenol -• Yn gyntaf, cydnabyddwn fod creu ysgol ffedereiddiedig yn gallu bod yn fodd o sicrhau uned addysgol gref tra'n cadw presenoldeb addysgol o fewn pob cymuned. Ond ni ddylid gorfodi'r model yn ddogmataidd ar ardaloedd.• Yn ail, galwn ar y Cyngor i ailystyried eu hasesiad o hanfod ffederasiwn llwyddiannus. Ni raid wrth leiafswm o blant a phrifathro di-gyswllt. Dylai ffederasiwn fod yn drefn hyblyg sy'n cynnig ffordd ymlaen i lawer o'r ysgolion llai sy'n cael eu bygwth tan y cynllun hwn.• Yn olaf, galwn am lawer fwy o ymchwil ym mhob ardal ynghylch denu cyllid o wahanol ffynonellau i gynnal ysgolion bach trwy ychwanegu at eu swyddogaeth - gan gynnwys lleoli swyddi gan y Cyngor ei hun a'i bartneriaid oddi fewn i ysgolion lle bo capasiti dros ben.Bydd y Gymdeithas felly yn pwyso ar y Cyngor i newid y strategaeth gan wrando ar wrthwynebiad rhesymol y bobl.Byddwn hefyd yn cynyddu'n pwysau ar Adran Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad i gymryd drosodd adeiladau ysgolion pentrefol i'w datblygu'n adnoddau cymunedol gan rentu nol i Awdurdodau Addysg y capasiti sydd ei angeni drefnu ysgol. Bydd y cam hwn yn codi'r pwysau dros nos oddi ar yr Awdurdodau Addysg Lleol ac yn foddion achubiaeth i lawer o'n cymunedau pentrefol Cymraeg."Am fwy o wybodaeth, darllenwch ddogfen newydd Cymdeithas yr Iaith: Ysgolion Pentre' - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol, Hydref 2007 (pdf)1pm, 25/10/07 Neuadd y Sir CaernarfonYn dilyn cyhoeddiad Cyngor Gwynedd y bydd hyd at 29 o ysgolion cynradd Gwynedd yn gorfod cau o dan eu cynlluniau newydd, mae Cymdeihas yr iaith yn galw ar rieni, llywodraethwyr ac unrhyw un arall sydd yn poeni am ddyfodol ysgolion cynradd pentrefol a chymunedau Gwynedd i ymgasglu y tu allan i Swyddfa Ardal Arfon Cyngor Gwynedd, Penrallt, yng Nghaernarfon am 1 yp dydd Iau nesaf (25/10) cyn y bydd Pwyllgor Craffu'r Cyngor yn cyfarfod i drafod y cynlluniau. Trwy wneud hyn gobeithiwn sicrhau y bydd y cynghorwyr a'r swyddogion yn cadw at eu gair o wrando ar lais pobl Gwynedd, yn hytrach na gwneud y penderfyniad y tu ol i ddrysau caeedig fel sydd wedi digwydd yn Sir Gaerfyrddin. Dewch yn llu!Cau 29 ysgol: Rhieni 'i frwydro', BBC Cymru'r Byd, 20/10/07Ysgolion: 'Ewch yn ôl at y bobl', BBC Cymru'r Byd, 21/10/07Keep 29 rural schools, council is urged, Western mail, 20/10/07Twenty nine Gwynedd schools face closure, Daily Post, 20/10/07Parents to fight school closures, BBC Wales, 20/10/07