Byddai cadw at addewid i agor dosbarth cychwynnol cyfrwng Cymraeg newydd yn Grangetown y mis hwn yn dystiolaeth bod Arweinydd Cyngor Caerdydd ‘o ddifrif am y Gymraeg’, yn ôl mudiad iaith.
Ym mis Mai 2015 - wedi dwy flynedd o ymgyrchu di-flino gan rieni lleol - addawodd Cyngor Caerdydd y byddai dosbarth derbyn Cymraeg yn agor yn Ysgol Ninian Parc ym mis Medi eleni, fel egin ysgol Gymraeg newydd sbon i wasanaethu Tre-biwt a Grangetown, i agor yn 2017. Ond mae pryderon wedi codi na fydd y cyngor yn gweithredu ar ei ymrwymiad.
Daw’r alwad ar y Cynghorydd Phil Bale i ymyrryd er mwyn sicrhau bod y cyngor yn agor yr ysgol newydd yn dilyn ffrae wedi i’r cyngor dinas honni nad yw’r Gymraeg yn rhan o ‘ffabrig cymdeithasol’ y ddinas mewn llythyr i Gymdeithas yr Iaith. Dywed ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith yn lleol eu bod nhw’n teimlo mai swyddogion y cyngor, nid yr Arweinydd y Cynghorydd Phil Bale, sy’n gyfrifol am yr anwybodaeth a difaterwch. Fodd bynnag, mewn llythyr at Arweinydd y Cyngor am fater yr ysgol, mae Carl Morris, Cadeirydd cangen leol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd yn gofyn iddo weithredu ar ei gefnogaeth:
“Bues i mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd gan ymgyrchwyr nos Fercher diwethaf yn trafod dosbarth cychwynnol cyfrwng Cymraeg newydd, ar gyfer wardiau Tre-biwt a Grangetown. Rydyn ni fel mudiad lleol yn bryderus iawn am y sefyllfa, ymhlith sawl arall. Mae'r dosbarth yn ei le - wedi’i leoli y drws nesaf i Ysgol Gynradd Parc Ninian - ond ymddengys, yn sgil yr hyn y gellir ond ei ddisgrifio fel diffygion neu ddifaterwch sylfaenol ar ran swyddogion y cyngor, fod perygl gwirioneddol iddo beidio cychwyn o gwbl.
“Roedd y niferoedd yn ymddangos yn gymharol iach ar ddechrau yr haf, ond yn hytrach na chynyddu, a hynny’n groes i bob disgwyliad, maent wedi lleihau oherwydd diffyg gwybodaeth, diffyg sicrwydd a diffyg trefniadau addas ar gyfer rhieni. Mae'n bryder enfawr, yr ymddengys nad yw'r rhan fwyaf o deuluoedd yr ardal wedi cael eu hysbysu'n briodol am y cyfle arbennig hwn o fewn eu cymuned.
“Ni ellir gwadu’r ffaith bod y cyngor wedi gohirio’r ymgynghoriad ar gyfer yr ysgol newydd ar sawl achlysur wedi arwain at y sefyllfa hon. Rydym yn galw ar y Cyngor i unioni eu camgymeriadau drwy sicrhau fod pob ymdrech yn cael ei wneud i hysbysu rhieni am y bore agored ar gyfer y dosbarth newydd a gynhelir ddydd Gwener yma am 10yb yn Ysgol Parc Ninian - ac i annog rhieni i ystyried y cyfle hwn i'w plant.
“Mae hwn yn gyfle arbennig i chi fel Arweinydd gymryd yr awenau a dangos eich bod o ddifrif am gefnogi'r iaith Gymraeg ar fater sydd o’r pwys mwyaf - sef sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hyrwyddo ymhlith ein cymunedau mwyaf amrywiol, a mwyaf difreintiedig ein prifddinas yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.”