Galw ar wrthbleidiau'r Cynulliad i uno mewn ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd

gwyl-fawr-baner.jpgHeddiw (Sadwrn, Mehefin 10) yn ei Gwyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd, a gynhelir yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar bob un o wrthbleidiau’r Cynulliad i gydweithio er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth Lafur yn ymateb i’r angen am Ddeddf Iaith Newydd. Bydd yr alwad hon yn adlewyrchu’r ffaith fod yna gonsensws bellach i’w weld yn datblygu o blaid deddfwriaeth gryfach a bod felly angen ymgyrch unedig er mwyn dwyn pwysau ar y Llywodraeth.

gwyl-deddf-iaith-100606.jpgPwyswch yma i weld fideo digidol o'r WylWrth annerch y cyfarfod, bydd Catrin Dafydd, arweinydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd yn dweud:‘Bellach, mae yna gonsensws i’w weld yn datblygu o blaid Deddf Iaith Newydd. Mae hwn yn gonsensws sy’n cwmpasu Cymdeithas yr Iaith, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a nifer o wrthbleidiau’r Cynulliad.‘Dros y misoed diwethaf, gwelwyd mwy a mwy o gyrff a phleidiau yn mabwysiadu dadleuon Cymdeithas yr Iaith o blaid Deddf Iaith Newydd. Ymhlith y dadleuon hyn mae’r angen i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg, yr angen i sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol sylfaenol i bobl Cymru ac hefyd yr angen am Gomisiynydd Iaith.‘Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwrthod chwarae unrhyw ran yn y drafodaeth. O ganlyniad, rhaid wrth ymgyrch unedig er mwyn sicrhau bod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd yn derbyn sylw dilys. Fel rhan o hyn, dylai pob un o’r gwrthbleidiau gydweithio er mwyn dwyn pwysau ar y Cynulliad. Dylent gychwyn ar y gwaith hwn, trwy gynnwys ymrwymiad i Ddeddf Iaith Newydd yn eu Maniffestos ar gyfer etholiad 2007.’Bydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros ddeddfwriaeth bellach hefyd yn parhau. Fel rhan o hyn, mae’r mudiad heddiw yn lansio deiseb genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd. Bydd y ddeiseb hon yn sail i’r ymgyrchu dros fisoedd yr haf ac eisoes mae hi wedi derbyn cefnogaeth nifer fawr o fudiadau cenedlaethol.Trefnwyd yr Wyl Fawr dros Ddeddf Iaith Newydd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chefnogaeth llu o fudiadau Cymreig, megis Merched y Wawr, UCAC, Cymuned, Cylch yr Iaith ac UMCA.Bydd yr wyl yn cael ei hagor gyda seremoni arbennig i anrhydeddu cyfraniad Eileen Beasley i fywyd Cymru. Dyma’r wraig a adnabyddir gan lawer fel Rosa Parks y mudiad iaith. Arweiniwyd y seremoni hon gan yr Athro Hywel Teifi Edwards.Tories set to back Welsh Act - Daily Post, 13 Mehefin 2006Protect Welsh language, say Tories - Western Mail, 13 Mehefin 2006Cymdeithas urges parties to join call for new Welsh Language Act - Western Mail, 12 Mehefin 2006Gweinidog yn gwadu galwad am ddeddf - BBC Cymru'r Byd, 11 Mehefin 2006Minister dismisses Welsh law call - BBC Wales, 11 Mehefin 2006Push for Welsh Act - Wales on Sunday, 11 Mehefin 2006Iaith: 'Angen consensws' - BBC Cymru'r Byd, 10 Mehefin 2006Anrhydeddu 'Rosa Parks Cymru' - BBC Cymru'r Byd, 10 Mehefin 2006Jones calls for new language act - BBC Wales, 10 Mehefin 2006'Ordinary' family's bravestance on the language - Western Mail, 10 Mehefin 2006Give new rights to our Welsh speakers - Daily Post, 09 Mehefin 2006Plaid leader in language call - Western Mail, 09 Mehefin 2006Welsh parties consider new language law - epolitix.com, 09 Mehefin 2006