Galw ar y gweinidog i dderbyn dirprwyiaeth i drafod dyfodol ysgolion pentref

Jane Davidson Fe ymgasglodd dros 70 o bobl, a oedd yn cynrychioli cymunedau sydd tan fygythiad yn Sir Gaerfyrddin, yng Ngwesty'r Stag & Pheasant Carmel heno, fel y cam cyntaf yn y broses o sefydlu fforwm newydd yn Sir Gaerfyrddin, a fydd yn ymgyrchu dros ddiogelu a datblygu ein hysgolion pentrefol yn ganolfannau addysg a datblgyu cymunedol.

Cafodd Tony Stephens (Milo) ei ethol yn Gadeirydd y fforwm, Ian Evans (Carwe) yn Is-Gadeirydd, Ioan Hefin (Mynyddygarreg) yn Ysgrifenydd a Tegid Dafis (Maesybont) yn Drysorydd. Bydd y Swyddogion yn awr yn trefnu cyfarfod o'r Fforwm o fewn yr wythnosau nesaf gan wahodd pob un o'r cymunedau pentrefol sydd tan fygythiad i enwebu cynrychiolydd.evening_post_14.01.05.jpgPwyswch yma i weld fersiwn mwy o erthygl tudalen flaen y South Wales Evening Post 14.01.05.Bu Cymdeithas yr Iaith yn adrodd i'r cyfarfod fod Jane Davidson unwaith yn rhagor wedi gwrthod trafod y mater. Mewn llythr at lefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred ffransis, mae Jane Davidson yn cydnabod nad yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu ymgynghori o gwbl ynghylch ei strategaeth i gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg a bod geiriau'r Awdurdod wedi bod 'yn gamarweiniol.' Ac eto, mae'n gwrthod cyfarfod â dirprwyiaeth o'r Gymdeithas i drafod y sefyllfa.Darllenwch y llythr gan Jane Davidson trwy bwyso ymaDywedodd Ffred Ffransis yn ystod y fforwm heno:"Mae Swyddogion Jane Davidson mewn cysylltiad cyson, yn hollol briodol, gyda Swyddogion y Cyngor Sir. Yn enw democratiaeth, mae yr un mor briodol felly ei bod yn cyfarfod unwaith gyda rhai sy'n gwrthwynebu strategaeth y Cyngor Sir.""Dywedodd Jane Davidson mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith yn 2002 ei bod newydd gyhoeddi canllawiau ar gyfer ysgolion gwledig a bod angen caniatau amser i weld a ydynt yn effeithiol. Daeth yr amser hwnnw gan fod strategaeth y Cyngor Sir yn gwbl groes i ganllawiau Ms Davidson. Nid oes unrhyw ymdrech i ystyried* Unrhyw ddulliau heblaw am gau ysgolion.* Yr effaith ar gymunedau lleol* Yr effaith ar y GymraegNid oes ymdrech chwaeth i sefydlu unrhyw ddadl addysgol dros gau'r ysgolion. Gan y bydd pob penderfyniad unigol yn cael ei seilio ar y strategaeth hon, a chan na all Jane Davidson drafod achosion unigol, dyma'r unig gyfle i drafod yr egwyddorion sylfaenol. Sarhad ar gymunedau lleol Sir Gâr fyddai gwrthod y cyfle i drafod."Bydd y Fforwm yn awr yn mynd ati unwaith eto i geisio trefnu cyafrfod gyda Jane Davidson i drafod y mater. Bydd y Gymdeithas o hyd yn lobio'r Cyngor Sir a Jane Davidson, yn ogystal a chefnogi gwaith y fforwm annibynol newydd.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan y Carmarthen Journal