Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am beidio cau ysgolion nes cynnal ymchwil ar effaith cau ysgolion ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf.
Daeth cyfnod ymgynghori ar gau ysgol Llangynfelyn ger Aberystwyth i ben ddoe ac mewn ymateb ysgrifenedig dywed Cymdeithas yr Iaith:
"Dywedir yn dadlennol yn yr Astudiaeth Effaith Iaith "Dylid nodi fod ceisio asesu'r effaith bosibl y caiff trefniadaeth ysgolion ar yr iaith Gymraeg yn dasg anodd." Ac eto mae Cyngor Ceredigion yn mynd ati i gau ysgolion ac amddifadu cymunedau heb gasglu'r dystiolaeth wrthrychol, ac mae hyn yn hollol anghyfrifol. Mae digon o ysgolion pentrefol cyfrwng Cymraeg wedi cael eu cau yng Ngheredigion yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ac mewn siroedd cyfagos fel Caerfyrddin cyn hynny. Mater ymchwil eitha rhwydd fydd gweld a ydyw disgyblion o ddalgylchoedd yr ysgolion hyn wedi mynd at yr ysgolion a ddynodwyd a pha gyfran sydd wedi'u hanfon at ysgolion Saesneg eu cyfrwng. Mater ymchwil eitha syml fydd cyfri perfformiad academaidd y disgyblion presennol o'r dalgylchoedd o gymharu a disgyblion a fynychent ysgolion yn eu pentrefi cyn hynny. Mater ymchwil gweddol syml fydd cyfri effaith cau ysgolion ar y farchnad dai yn y cymunedau hyn - a ydyw teuluoedd ifainc yn llai tebyg o brynu tai yn y cymunedau ? Ond mae Ceredigion a siroedd eraill yn parhau i gau ysgolion a risgio effaith negyddol iawn ar yr iaith ac ar ein cymunedau gwledig heb wneud ymchwil o'r fath. Dylai fod moratoriwm ar gau ysgolion nes cyflawni'r ymchwil"
Mae ymateb llawn y Gymdeithas i'w weld yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/ymateb-i-gau-llangynfelyn
Y stori yny wasg:
Galw am 'foratoriwm' ar gau ysgolion - Golwg360 30/06/15