Galwad i is-ganghellor nesaf Prifysgol Aberystwyth fedru’r Gymraeg

Mae Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Brifysgol Aberystwyth i ofyn am sicrwydd y bydd is-ganghellor nesaf y brifysgol yn medru’r Gymraeg. 

Dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd yr is-ganghellor presennol, yr Athro April McMahon, y bydd hi’n ymddiswyddo fis Gorffennaf.

Yn y llythyr, dywedodd Elfed Wyn Jones, cadeirydd y Gell,

Wrth i chi fynd ati i benodi is-ganghellor newydd, dros dro tan fis Gorffennaf, ac yn barhaol wedi hynny, gofynnwn i chi sicrhau fod y person a gaiff ei benodi yn rhugl yn y Gymraeg fel y gall ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio bob dydd, ac yn deall anghenion y gymuned Gymraeg sydd yn y brifysgol."Er i'r is-ganghellor presennol addo dysgu'r Gymraeg cyn cael ei phenodi, nid ydy hi wedi cyflawni'r addewid hwnnw. Dengys hyn mai'r unig ffordd i sicrhau fod yr is-ganghellor nesaf yn medru'r Gymraeg ydy mynnu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol wrth hysbysebu'r swydd. Nid oes rheswm pam na ddylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i'r swydd hon, ac i bob swydd yr hysbysebwch yn y dyfodol.

Yn y llythyr, mynega’r myfyrwyr eu pryder hefyd na fydd adroddiad ar yr ymchwil a gomisiynwyd gan y Brifysgol ynglŷn â llety cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei gyhoeddi tan fis Chwefror, er mai’r bwriad gwreiddiol oedd i hynny ddigwydd fis Rhagfyr. 

Meddai Elfed Wyn Jones,
Does dim amheuaeth am yr hyn mae myfyrwyr ei eisiau ar gyfer neuadd Gymraeg: coridorau agored, digon o ystafelloedd i gymdeithasu a chynnal digwyddiadau ac ymarferion, a ffreutur. Mae myfyrwyr wedi bod yn gwbl glir am hyn o'r dechrau.”  

Y stori yn y wasg - Golwg 360