Bydd Cymdeithas yr Iaith yn dathlu'r ffaith fod yr Eisteddfod yn ardal Wrecsam trwy drefnu digwyddiad cwbl unigryw ar y noson olaf (Sadwrn 6ed Awst), ar y cyd gyda'r grwp lleol "Deffro'r Ddraig".Bydd Band Cambria o wladgarwyr ardal Wrecsam yn gorymdeithio i mewn i Glwb Gorsaf Ganolog Wrecsam i gychwyn gig arbennig gyda blas lleol. Yn eu dilyn bydd band roc ifanc lleol "Mother of Six" yn cyflwyno set uniaith Gymraeg am y tro cyntaf fel arwydd o'u balchder fod y Steddfod wedi dod i'r dre. Am y tro cyntaf erioed mewn Eisteddfod bydd arddangosfa Celf Ymladd ar lwyfan gan y pencampwr byd-eang Pol Wong - sy'n enedigol o Wrecsam ac o dras Dseineiaidd ac sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. I gloi'r gig bydd set gan Geraint Lovgreen - un o gefnogwyr mwya pybyr Clwb Pel-droed Wrecsam - a Bob Delyn, sydd yn hen ffefryn ar nos Sadwrn olaf y Steddfod.Dywed un o drefnwyr lleol gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Nia Lloyd:"Bydd Cymdeithas yr Iaith bob amser yn gweithio yn y gymuned leol wrth drefnu adloniant yn ystod wythnos y Steddfod. Mae'r gig nos Sadwrn olaf yn gymysgwch anhygoel, a bydd Wrecsam yn rhoi ei stamp go iawn ar y Steddfod. Bydd pobl yn cofio'r gig hwn am flynyddoedd i ddod. Mae tocynnau ar gael (£8 y pen) o gaffi Yales yn y dre neu arlein o cymdeithas.org/steddfod."Dywedodd Pol Wong a fydd yn cymryd rhan yn y noson:"Am y tro cyntaf mewn Eisteddfod, byddaf i a Bedwyr ap Gwyn yn cynnal arddangosfa celf ymladd cyffrous iawn, yn dehongli stori y Ddraig Goch yn erbyn y Ddraig Wen. Yn ol y chwedl cafodd castell y Brenin Gwrtheyrn ei chwalu gan 2 ddraig yn ymladd yn ffyrnig mewn ogof oddi tan y castell. Roedd y ddraig wen yn ennill y frwydr, ond gydag un ymdrech olaf, gan ddefnyddio ei holl nerth ac ysbryd, y ddraig goch oedd yn fuddugol. Aeth yn ol i'r ogof a mynd i drwmgwsg, yn barod i godi eto ar alwad pobl Cymru. Y chwedl yma, a'r problemau anferth sy'n ein wynebu yn y gogledd ddwyrain, oedd sbardun yr ymgyrch 'Deffro'r Ddraig.' Mae'r amser i ddeffro'r ddraig wedi cyrraedd yn ein hamser ni, ar ol canrifoedd. Ni ydy'r draig goch; ydan ni'n barod i ddeffro?"
Amserlen7pm-9pm : DEFFRO'R DDRAIG Band Cambria, Mother of Six, Brwydr Kung Fu a Taekwondo9pm-12am : TRÊN BACH Y SGWARNOGOD BOB DELYN A GERAINT LØVGREEN12am-4am : Arhoswch ar gyfer noson arferol Clwb Gorsaf Ganolog, WrecsamTocynnau ar werth o cymdeithas.org/steddfod, Caffi Yales ger yr Orsaf Ganolog, Awen Meirion Bala, Siop Elfair Rhuthun, trwy ffonio 01970 624501 (oriau swyddfa - tan Gwener 29ain Gorffennaf) neu o uned Cymdeithas yr Iaith (405-406) ar faes yr Eisteddfod.Band CambriaSefydlwyd y band 5 mlynedd yn ol gan Adam Phillips (Balchder Cymru) a Andrew Burgess, a'r prif nod ydy cefnogi gorymdeithiau cymunedol. Mae'r band yn cwrdd yn Y Waun yn rheolaidd i ymarfer. Maent yn barod i chwarae unrhyw le dros Gymru, a hynny am ddim, gan dderbyn rhoddion tuag at eu costau. Maent wedi cydweithio'n agos iawn gyda'r grwp pwyso lleol 'Deffro'r Ddraig' dros y blynyddoedd diweddar.Pol WongMae Pol yn Gymro o dras tsieiniaidd, ac yn enedigol o Wrecsam. Mae Pol wedi dysgu'r Gymraeg yn rhugl, ac yn fynach Shaolin a phencampwr y byd yn ei gelf ymladd. Mae'n gweithio mewn canolfan Shaolin yn Rhiwabon, ger Wrecsam ac yn dysgu kung fu drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ac oedolion. Breuddwyd Pol yw i agor canolfan Gymraeg/celf ymladd a fydd yn hybu'r iaith a iechyd ac yn dod a gwaith, cyfleoedd, a thwristiaeth i'r ardal.Mother of SixBand lleol yw Mother of Six, sydd wedi cyfieithu eu set gyfan i'r Gymraeg ar gyfer y Steddfod. Mae ganddynt ddilyniant eang yn yr ardal yn barod, ac yn sicr bydd ganddynt ddilyniant mawr ymysg y Cymry Cymraeg yn dilyn y gig yma.Deffro'r DdraigDaeth ymgyrch Deffro'r Ddraig i fodolaeth ym Mis Mawrth 2009 gan aelodau 'Cyngor Pobl Gogledd Cymru' i wrthwynebu strategaeth is-rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru, Swydd Caer a Glannau Merswy a oedd yn cael ei gefnogi gan Gyngor Wrecsam. Cynllun a oedd yn golygu adeiladu dros 20,000 o dai, nad oedd i bobl lleol, a fyddai'n cael effaith andwyol ar yr iaith, amgylchedd, treftadaeth a hunaniaeth Gymreig yr ardal. Mae Cyngrhair Merswy Dyfrdwy wedi tynnu allan or cynllun, diolch i ymgyrch Deffro'r Ddraig, a'r frwydyr rwan ydy rhoi pwysau ar ein cynghorau lleol i ail edrych ar eu cynllunau datblygu lleol, a sicrhau eu bod wedi'u cynllunio er lles pobl Cymru.