Gigs Cymdeithas Eisteddfod Wrecsam: rhan o weithredu cymunedol

logo-gigs-wrecsam-2011.jpgYn ystod y flwyddyn pryd y cyhoeddwyd araith "Tynged yr Iaith 2 - Dyfodol ein Cymunedau", mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd y gigs a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn rhan o ymgyrchoedd gweithredu cymunedol. Cynhelir gigs Cymdeithas yr Iaith yn un o brif glybiau nos Cymru - Gorsaf Canolog Wrecsam - a bydd y tocynnau ar werth o fis Mai ymlaen o http://cymdeithas.org/steddfodDywed trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd, Osian Jones, ei fod yn teimlo'n "gyffrous iawn" am y gigs gan eu bod yn hybu gweithredu cymunedol ac yn cael eu trefnu ar y cyd gyda nifer o grwpiau cymunedol. Dywedodd"Mae'n gret ein bod yn gallu cynnal y gigs hyn yn un o glybiau gorau Cymru yng nghanol tre Wrecsam ac mewn cydweithrediad gyda nifer o grwpiau cymunedol. Yr ydym yn arbennig o falch fod band ifanc lleol o'r dref "Mother of 6" yn chwarae ar y nos Sadwrn olaf a'u bod yn brysur greu set Gymraeg ar gyfer y gig. Cynhelir y gig ar y cyd gyda'r grwp pwyso lleol "Deffro'r Ddraig""Rhai o uchafbwyntiau eraill yr wythnos fydd

  • Nos Lun 1af Awst - Noson o gomedi gwleidyddol a set gan Dr Hywel Ffiaidd, sef Dyfed Tomos y canwr a'r actor o Rhos
  • Nos Fawrth 2 Awst - Gig Rhyddhau Siarter "Tynged yr Iaith - Dyfodol ein Cymunedau" gyda Bryn Fon a'r Band, Al Lewis, Daniel Lloyd a'r Saethau.
  • Nos Fercher 3 Awst - Gig Cyhoeddi 2012 yn Flwyddyn Dathlu 50mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith. Bydd Mici Plwm yn cyflwyno cerddoriaeth a ffilm o 50 mlynedd o ymgyrchu dros y Gymraeg a chanu roc Cymraeg. Ymhlith y gwesteion arbennig bydd Maffia Mr Huws, Heather Jones ynghyd a bandiau cyfoes i ddangos fod y frwydr yn parhau.
  • Nos Iau 4 Awst - Gig yn erbyn Y TORI-adau, gan adlewyrchu protest ar y maes yr un diwrnod. Bydd Llwybr Llaethog, Dau Cefn, Crash Disgo ac eraill yn gyrru'r "Tren Trydan". Bydd nifer o Undebwyr ac ymgyrchwyr lleol yn rhan o'r trefniadau.
  • Nos Wener 5 Awst - Gig dros Heddwch Rhyngwladol "Yr Eryr a'r Golomen" gyda Meic Stevens a'r band a llu o artistiaid eraill. Am hanner nos bydd munud o dawelwch i gofio Hiroshima, a byddwn yn cofio eleni wrth gwrs y rhai sy'n diodde o ganlyniad i'r daeargryn a'r tsunami. Trefnir gyda Grwpiau Heddwch lleol.

Ychwanegodd Ieuan Roberts, aelod o'r Pwyllgor Trefnu lleol,"Yn dilyn y bygythiadau i gymunedau lleol Cymru ac i S4C, fe benderfynodd Cymdeithas yr Iaith fod rhaid i'n holl weithgareddau yn yr Eisteddfod eleni - yn cynnwys ein gigs - ymateb i'r bygythiadiau hynny. Rydym yn brysur fynd yn ol i'r 70au a'r 60au lle roedd yn rhaid brywdro bob munud dros yr iaith. Heddiw, fel yn y gorffenol, rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd."Ni bydd partneriaeth ffurfiol gyda'r Eisteddfod eleni gan fod y gigs yn rhai gwleidyddol eu natur, ond dywed y Gymdeithas ei bod yn gweithredu mewn "ysbryd o bartneriaeth" trwy dargedu cynulleidfaoedd gwahanol i rai arferol y Steddfod o ran grwpiau lleol, a bod y Gymdeithas yn barod iawn i gydweithio a'r Eisteddfod ar unrhyw brosiectau yn y dyfodol.Bydd yn gyfle da i ymwelwyr a'r Eisteddfod brofi'r holl gyfleusterau mewn un o glybiau gorau Cymru a grewyd trwy ail-ddatblygiad yr Orsaf Rheilffordd Ganolog