Gigs Eisteddfod Llanelli 2014

Bydd teimlad lleol i gigs y Gymdeithas yn Eisteddfod Sir Gâr eleni, a fydd yn cael eu cynnal mewn tri lleoliad yn Llanelli – Clwb Rygbi Ffwrnes, y Thomas Arms a'r Kilkenny Cat - mae’r mudiad iaith wedi cyhoeddi.

Amserlen ar gael yma

Bydd nifer o fandiau lleol sydd wedi chwarae rhan allweddol yn ymgyrchoedd y Gymdeithas yn perfformio y gigs, gan gynnwys y bandiau sy’n hanu o Sir Gaerfyrddin - Bromas, Castro a’r Banditos. Hefyd yn chwarae yn gigs y Gymdeithas bydd nifer o artistiaid adnabyddus iawn megis y cerddor o Solfach, Meic Stevens, Candelas, Sŵnami, Steve Eaves, Casi Wyn, Kizzy Crawford, Bob Delyn a Cowbois Rhos Botwnnog.

Meddai Lowri Johnston, un o gydlynwyr adloniant Cymdeithas yr Iaith yn ystod yr ŵyl:

“Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn mynd i gigs yn Sir Gâr yn gyfarwydd â'r bandiau ifanc fydd yn chwarae - Bromas, y Banditos, y Ffug a Castro, ac wedi dilyn eu datblygiad wrth iddyn nhw ddod yn fwy adnabyddus nawr i gynulleidfaoedd ar draws Cymru."

“Mae sawl un ohonyn nhw wedi bod yn rhan o'n hymgyrchoedd hefyd – y Banditos yn chwarae mewn protest ym Mhenybanc, Castro a Bromas yn canu mewn protest yn swyddfeydd y Cyngor y llynedd a'r Ffug yn cefnogi ymgyrch chwe pheth y Gymdeithas. Maen nhw'n dilyn arfer artistiaid fel Steve Eaves, sydd wedi bod yn gefnogol i'r Gymdeithas dros y blynyddoedd – mewn gigs ac yn wleidyddol. Rydyn ni hefyd yn falch o ddal i allu rhoi llwyfan i fandiau fel Bob Delyn a Meic Stevens.”

Bydd y Gymdeithas yn cynnal parti ar stondin Cyngor Sir Gaerfyrddin ar faes yr Eisteddfod ddydd Gwener Awst yr 8fed, ac yn dweud eu bod yn gobeithio gallu dathlu bod y Cyngor yn arwain y ffordd i Gymru wrth iddyn nhw roi strategaeth at ei gilydd i fynd i'r afael â'r dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y sir. Ychwanegodd Lowri Johnston:

“Yn Sir Gâr ni wedi gweld y cwymp mwyaf yng Nghymru yn y ganran o siaradwyr Cymraeg.
Mae gigs mor bwysig ag yw strategaethau ac yn y blaen o ran y Gymraeg felly mae'n bwysig i ni roi cyfle i bobl glywed a pherfformio yn Gymraeg – ac mae'r ffaith mai bandiau ifanc sy’n arwain y ffordd yn arwyddocaol. Dyna pam mai bandiau ifanc lleol fydd yn chwarae yn y parti ar y maes – ac yn cadw'r parti i fynd yn gig yn y Thomas Arms y noson honno.”