Gobaith o'r Diwedd - Cyngor Sir Conwy

Ysgol-Llangwm-taith.jpgMewn datblygiad hanesyddol heddiw, bydd papur o flaen Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cwsmeriaid Cyngor Sir Conwy am 2pm brynhawn heddiw (Bodlondeb, Conwy) yn argymell fod y Cyngor yn newid ei Strategaeth Moderneiddio Ysgolion i gydnabod gwerth ysgolion pentrefol Cymraeg. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pob opsiwn yn y dyfodol ystyried yn ddwys anghenion y gymuned leol. Dyma destun llawn y newid a argymhellir i'r strategaeth (Adran 6.5)"Mae'r Awdurdod yn cydnabod cyfraniad allweddol ein hysgolion pentref yn ein hardaloedd gwledig i gynnal y diwylliant, iaith a ffordd o fyw lleol. Wrth ystyried y dewisiadau ar gyfer strwythurau ysgol yn y dyfodol yn ein hardaloedd gwledig, bydd yr Awdurdod yn cydbwyso anghenion addysgol gydag anghenion datblygu, buddsoddi a chefnogi'r ardal."Mae'r newidiadau yn dod o ganlyniad i broses ymgynghori a dywed adran newydd (3.2.1) yn y strategaeth fod y cyfarfodydd hyn wedi bod yn "amhrisiadwy" a "bu i'r ardaloedd gwledig fynegi barn gref iawn fod yr ysgol bentref yn hanfodol wrth sicrhau parhad bywyd cymunedol ffyniannus ac wrth gynnal diwylliant, iaith ac etifeddiaeth Cymru"Dywed Osian Jones, trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd "Mae heddiw yn ddiwrnod llawn gobaith ar gyfer y plant a'r cymunedau pentrefol Cymraeg yn sir Conwy. Heddiw, bydd cymunedau fel Llangwm, Ysbyty Ifan, Penmachno, Capel Garmon, Ro-wen etc yn cael gwybod fod eu Cyngor am eu cefnogi a gweithredu gyda nhw yn lle ceisio tanseilio'r cymunedau fel y gwna cynghorau eraill yn y gogledd. Gosodwyd allan ystod eang o opsiynau'n gweddu i anghenion gwahanol ysgolion.

Ychwanegodd Mr Jones:"Yr ydym yn llongyfarch y cymunedau hyn am fod mor deyrngar i'w broydd ac i addysg eu plant. Yr ydym yn falch fod Cymdeithas yr Iaith wedi gallu chwarae rhan fach yn y broses trwy'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod y Daith Gerdded 70 milltir yn yr haf heibio i lawer o'r pentrefi hyn. Galwn ar Awdurdodau eraill i rannu gweledigaeth Cyngor Sir Conwy."